Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Maent yn ymuno â mwy na 680 o Gymrodyr a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynrychioli rhagoriaeth yn y gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a meysydd eraill.
Mae'r Cymrodyr diweddaraf yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a meddygaeth, ynghyd â’r dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol.
Y canlynol yw'r Cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe:
- Yr Athro Angharad Davies, Athro Clinigol a Microbiolegydd Meddygol Ymgynghorol er Anrhydedd;
- Yr Athro Antonio Gil, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol a Mecanyddol;
- Dr Amira Guirguis, Athro Cysylltiol (Fferylliaeth), Cyfarwyddwr y Rhaglen MPharm a Phennaeth Ymarfer Fferylliaeth; ac,
- Yr Athro Yvonne McDermott Rees, Athro yn y Gyfraith
“Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd bob amser yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r Gymdeithas,” meddai'r Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas.
“Mae gwaith y Gymdeithas, y digwyddiadau bord gron am arloesi rydyn ni'n eu cynnal, a'n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i gyd wedi'u hadeiladu ar wybodaeth a chyfraniadau ein Cymrodyr.
“Mae'r Cymrodyr rydyn ni'n eu henwi heddiw'n ychwanegu at hyn drwy amrywiaeth eithriadol o sgiliau, dealltwriaeth a phrofiad. Drwy fanteisio ar eu harbenigedd cyfunol i ategu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, gallwn ni gael effaith go iawn fel ffynhonnell cyngor dibynadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”
Archwiliwch restr o’n Cymrodyr newydd, ble maen nhw’n gweithio, a'u maes arbenigedd