Swimmer in pool

Mae astudiaeth newydd yn dangos bod y mwyafrif o athletwyr benywaidd (58%) yn cefnogi categoreiddio yn ôl rhyw biolegol, yn hytrach na hunaniaeth rhywedd, ond mae safbwyntiau'n amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon.  

Yr astudiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid yw'r un fwyaf o'i math ac mae’n seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr a thrylwyr o’r data. Fe'i cyhoeddwyd yn y Journal of Sports Sciences

Mae'n adrodd am safbwyntiau 175 o athletwyr benywaidd cenedlaethol, elît ac o'r radd flaenaf o amrywiaeth o gampau a gwledydd ynghylch cymhwysedd athletwyr trawsryweddol a'u cynnwys.  

Ymhlith yr ymatebwyr, roedd 26 o bencampwyr y byd, 22 o gystadleuwyr Olympaidd – gan gynnwys enillwyr dwy fedal aur, dwy fedal arian a thair medal efydd – a chwech sydd wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd.

Mae'r astudiaeth yn ymchwilio’n fanwl i wahaniaethau pwysig nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn arolygon eraill. Er enghraifft, roedd cwestiynau’n ymwneud â “chwaraeon targed” fel saethyddiaeth, chwaraeon “sy’n dibynnu'n drwm ar allu corfforol” fel gwibio 100 metr, a “chwaraeon cyswllt” fel rygbi'r undeb.

Hefyd, dyma'r astudiaeth gyntaf i ddangos bod safbwyntiau athletwyr benywaidd am gymhwysedd athletwyr trawsryweddol a'u cynnwys yn amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon, lefel y gystadleuaeth a'r cam gyrfaol. Datgelodd yr arolwg hefyd fod y mwyafrif helaeth (81%) o athletwyr benywaidd yn credu y dylai cyrff chwaraeon wella cynhwysiant athletwyr trawsryweddol.  

Gallai'r astudiaeth fod yn adnodd pwysig i gyrff llywodraethu chwaraeon wrth bennu rheolau a gweithdrefnau. 

Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Shane Heffernan a Dr Andy Harvey o'r Ganolfan Ymchwil Gymhwysol i Wyddor Chwaraeon, Technoleg a Meddygaeth (A-STEM) ym Mhrifysgol Abertawe, a'r prif gydweithredwyr oedd yr Athro Alun Williams a Dr Georgina Stebbings o Sefydliad Chwaraeon Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Dr Marie Chollier o Brifysgol Caer.

Meddai Dr Shane Heffernan o Brifysgol Abertawe:

Mae ein hymchwil yn darparu tystiolaeth y gall cyrff llywodraethu ei defnyddio'n hyderus – mewn dadl lle mae pobl yn aml yn tueddu i anghytuno'n gryf – gan wybod ei bod hi'n seiliedig ar waith a wnaed drwy ddull gwyddonol ac adolygiad gan gymheiriaid. 

Fel y mae fframwaith y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) wedi'i awgrymu'n ddiweddar, mae barn athletwyr yn bwysig wrth ddatblygu polisïau a chanllawiau o ran cynhwysiant yn y maes hwn. Yr hyn y mae ein harolwg wedi'i wneud yw casglu barn grŵp mawr o athletwyr sydd wedi ymddeol a rhai sy'n dal i gystadlu er mwyn helpu i lywio cyrff llywodraethu.

Y canfyddiadau allweddol yw bod safbwyntiau yn wahanol ynghylch cynnwys athletwyr trawsryweddol ar bob lefel o chwaraeon a aseswyd. Rhaid ystyried amwysedd pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ar bolisïau sy'n effeithio ar fywydau ac o bryd i'w gilydd fywoliaeth athletwyr.

Yn bwysig, mae barn athletwyr lefel uchel yn dangos bod cynhwysiant trawsryweddol yn cael ei werthfawrogi, ond rhaid i degwch fod yn flaenoriaeth i athletwyr ar y lefel gystadleuol uchaf.”

Meddai Alun Williams, Athro Genomeg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Sefydliad Chwaraeon Prifysgol Fetropolitan Manceinion a phrif gydweithredwr yr astudiaeth ynghyd â Dr Georgina Stebbings:

“Yr astudiaeth hon yw’r un fwyaf o'i math o bell ffordd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth fanwl, bellgyrhaeddol a dadlennol, yn seiliedig ar ddata cadarn a aseswyd yn annibynnol.

Mae'n dangos bod barn athletwyr trawsryweddol am gymhwysedd athletwyr trawsryweddol a'u cynnwys yn amrywio yn ôl y gamp, y cam gyrfaol a lefel y gystadleuaeth, felly rhaid i ffederasiynau ystyried hynny wrth ofyn am farn athletwyr er mwyn gwir ddeall safbwynt yr athletwr.  

Yn gyffredinol, cafodd categoreiddio yn ôl rhyw biolegol ei ffafrio, er bod y farn yn amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon. Cafwyd y gefnogaeth leiaf i gymhwysedd menywod trawsryweddol yng nghategori menywod chwaraeon cyswllt a'r rhai hynny lle mae perfformiad yn dibynnu'n drwm ar ffactorau biolegol sy'n wahanol rhwng y rhywiau.  

Fodd bynnag, cafodd amrywiaeth o safbwyntiau eu mynegi ynghylch rhai agweddau, gan amrywio rhwng grwpiau pan oedd gwobrau mwy yn y fantol, neu pan nad oedd unigolion yn cystadlu ar y brig mwyach. Mae'n hollbwysig i gyrff llywodraethu sicrhau bod polisïau ac aelodaeth pwyllgorau'n adlewyrchu'r rhanddeiliaid allweddol a'u bod yn deall bod safbwyntiau'n amrywio ymysg grwpiau o athletwyr a champau. 

Yn bwysig, mae'r data presennol yn dangos, hyd eithaf ein dealltwriaeth bresennol, nad oes tystiolaeth bod gan athletwyr cystadleuol lefel uchel farn negyddol am newid rhywedd yn gyffredinol, a bod 94.2% ohonyn nhw'n gefnogol.”  

Mae’r Athro Williams yn arbenigo mewn perfformiad corfforol dynol ar y lefel uchaf, ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar broffiliau genetig athletwyr elît, y gwelliannau mewn perfformiad sy'n gallu deillio o hyfforddiant corfforol, ac anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon, yn ogystal â materion moesegol a pholisi. Mae hefyd wedi ymddangos fel arbenigwr yn y Llys Cyflafareddu Chwaraeon (CAS) ar ran Caster Semenya yn ei brwydr gyfreithiol â Chymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF).  

 

Rhannu'r stori