Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig platfform hyfforddiant ar-lein am ddim i wella sgiliau'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y diwydiant dur. Gall pobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fanteisio ar y cyrsiau.
Nod y cyrsiau, sydd ar gael drwy raglen SWITCH-On, yw hwyluso'r trawsnewidiad i sero net a hyrwyddo datgarboneiddio drwy gynnig hyfforddiant achrededig am ddim sy'n ymdrin â sgiliau amrywiol y mae eu hangen ar gyfer y trawsnewidiad.
Mae ystod o gyrsiau sgiliau ar gael sy'n cynnig cyflwyniadau i weithrediadau Ffwrneisi Arc Trydan, yr Economi Gylchol, yn ogystal â Gwneud Dur heb Ffosiliau, lle gall cyfranogwyr ddysgu mwy am yr opsiynau posib ar gyfer gwneud dur yn y dyfodol, y newidiadau sydd yn yr arfaeth a'r rhesymau dros y newidiadau hyn.
Roedd Caroline o Abertawe, sy'n gweithio i ddatblygu cynhyrchion newydd a fydd ar gael ar ôl i'r ffwrnais arc trydan gael ei gosod ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot, wedi'i chael hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth fanwl am ffwrneisi arc trydan yr oedd ei hangen arni ar gyfer ei gwaith hi. Fodd bynnag, mae hi bellach wedi cwblhau dau gwrs SWITCH-On ar weithrediadau ffwrneisi arc trydan a gwneud dur heb ffosiliau.
Dywedodd Caroline: "Mae cyrsiau SWITCH-On wedi gwella fy nealltwriaeth o'r technolegau gwahanol a ddefnyddir i gynhyrchu cynhyrchion dur sero net ym Mhort Talbot. Rydw i eisoes yn defnyddio'r wybodaeth hon yn fy ngwaith o ddydd i ddydd ac rwy'n gobeithio y bydd modd cyflawni dyfodol llawer gwyrddach ar gyfer y diwydiant dur."
Dywedodd Chris, o Sgiwen, sy'n ymchwilydd i Ymchwil a Datblygu Tata Steel, ac wedi cwblhau tri o gyrsiau rhaglen SWITCH-On.
Dywedodd Chris: "Gwnes i gwblhau'r cyrsiau gwneud dur heb ffosiliau a gweithrediadau ffwrneisi arc trydan i feithrin dealltwriaeth well o'r technolegau sy'n debygol o gael eu defnyddio yn y diwydiant dur dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
"Rydw i hefyd wedi cwblhau'r cwrs ar yr Economi Gylchol er mwyn deall sut y gellir ei defnyddio i gyflawni sero net a chan fod hyn yn farchnad swyddi sy'n datblygu yn y DU, rwy'n credu y bydd y cwrs o fudd i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Khalil Khan, arweinydd prosiect Prifysgol Abertawe: "Mae SWITCH-On Skills yn canolbwyntio ar sicrhau y gall y gweithlu presennol a busnesau barhau i gystadlu ac y bydd piblinell o ddoniau'n dod drwy ysgolion a sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae profiadau Caroline a Chris yn amlygu sut y gall y platfform hyfforddiant sgiliau hwn helpu i rymuso pobl yng nghymuned Castell-nedd Port Talbot i chwarae rolau allweddol wrth drawsnewid i sero net yn y dyfodol."
Ariennir SWITCH-On Skills gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.