Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio system hidlo i wneud dŵr afonydd yn ddiogel i'w yfed rownd gynderfynol Ewropeaidd cystadleuaeth ddylunio fyd-eang.
Enw'r gystadleuaeth yw “Invent for the Planet”. Prifysgol Texas A&M sy'n cynnal y gystadleuaeth a gwahoddwyd 20 o brifysgolion o 15 gwlad ledled y byd i gymryd rhan. Prifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol yn y DU a gafodd ei gwahodd i gymryd rhan.
Mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau lleol ac yn dewis her fyd-eang. Eleni, roedd yr heriau’n cynnwys gwella mynediad at ddŵr glân yn Papua Guinea Newydd, creu cartrefi arloesol i boblogaethau sy'n tyfu, lleihau dalfeydd dieisiau i ddiogelu bywyd y môr a chreu atebion ynni cynaliadwy i wledydd yn Affrica Is-Sahara.
Wedyn mae gan bob tîm 48 awr i ymchwilio i'w her, creu prototeip a datblygu cynnig cryno a’i gyflwyno i banel o feirniaid.
Cymerodd 40 o fyfyrwyr o Abertawe ran ac fe'u tynnwyd o 11 o wledydd ledled y byd ac o 12 o bynciau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Roedd y tîm buddugol – o'r enw Pure Flow – yn cynnwys chwe myfyriwr: Francesca Jarvis, sy'n astudio mathemateg a chyfrifiadureg; Sean Calucag, sy'n astudio peirianneg gemegol; a Hywel Crawley, Harry Griffiths, Sanskar Aryal ac Oskar Augustin, sydd oll yn astudio peirianneg fecanyddol.
Eu her oedd dyfeisio ateb i helpu Papua New Guinea i wella mynediad at ddŵr glân a glanweithdra, sy'n anodd oherwydd daearyddiaeth y wlad.
Eu hateb oedd system hidlo rad nad oes angen llawer o waith cynnal a chadw arni sy'n hidlo dŵr afonydd i ddarparu dŵr yfed glân i boblogaethau gwledig.
Yn ddiweddar, cystadlodd Pure Flow yn y rownd gynderfynol Ewropeaidd a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Dechnolegol Atlantic yn Galway, Iwerddon. Gorffennodd y tîm yn yr ail safle, gan golli o drwch blewyn i Universidad Politécnica de Madrid (UPM, Prifysgol Dechnegol Madrid) o Sbaen, a fydd bellach yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol fyd-eang.
Yn ystod y gystadleuaeth, gwnaeth y tîm greu prototeip cynnar o'r system hidlo ac roedd y beirniaid o'r farn y gallai fod yn gynnyrch dichonol. Bydd tîm mentergarwch y Brifysgol, sydd â hanes cadarn o gefnogi cwmnïau cychwynnol myfyrwyr, hefyd yn gallu cynnig cyngor ar ddatblygu'r syniad ymhellach.
Meddai Sanskar Aryal, aelod o'r tîm buddugol a myfyriwr Peirianneg Fecanyddol sydd yn ei ail flwyddyn:
“Roedd Invent for the Planet yn anhygoel! Roeddwn i'n dwlu ar bob her a gweithgaredd ac yn sgîl y gystadleuaeth mae gen i feddylfryd llawn cymhelliant, ynghyd â'r ymdeimlad fy mod i wedi goresgyn her a rhai atgofion da iawn.”
Meddai Oluwadra Bobade, myfyrwraig Peirianneg Electronig a Thrydanol sydd yn ei hail flwyddyn:
“Roedd hi'n brofiad gwych – dyma ddiben peirianneg! Byddwn yn cystadlu eto mewn chwinciad.”
Meddai Ashima Anand, myfyrwraig MSc Peirianneg Strwythurol:
“Roedd hi'n brofiad anhygoel gweithio gyda phobl newydd o bynciau a blynyddoedd eraill, a chawson ni gymaint o gymorth gan y staff. Byddwn i'n cystadlu eto’n bendant.”
Mae llwyddiant Abertawe yn Invent for the Planet yn gynnyrch arall sydd wedi deillio o'r bartneriaeth ffyniannus y mae Prifysgol Abertawe wedi'i meithrin â phrifysgolion blaenllaw yn Nhecsas, megis A&M. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau cyfnewid myfyrwyr a chydweithrediadau ymchwil mewn meysydd megis nanofeddygaeth.
Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, Arweinydd y Bartneriaeth Strategol â Thecsas a chyd-drefnydd o ran Invent for the Planet:
“Mae Invent for the Planet yn cynnig cyfle gwych i'n myfyrwyr weithio gyda myfyrwyr o bynciau, disgyblaethau a grwpiau blwyddyn eraill, yn ogystal â rhyngweithio â chyfranogwyr a mentoriaid o bedwar ban byd. Ers iddi ddechrau yn 2018, mae cystadleuaeth Invent for the Planet yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n partner tymor hir, Prifysgol Texas A&M, am gynnig y cyfle i fyfyrwyr o Abertawe gymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn.”
Meddai Kelly Jordan, Uwch-Swyddog Entrepreneuriaeth a chyd-drefnydd o ran Invent for the Planet:
“Mae Invent for the Planet yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, rhoi ar waith yr wybodaeth am beirianneg a gwyddoniaeth y maen nhw wedi'i meithrin yn ystod eu hastudiaethau yn Abertawe ac ymbaratoi i gael effaith gadarnhaol ar y byd. Dyma un enghraifft yn unig o'r digwyddiadau y mae'r tîm mentergarwch yn eu cynnal i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd ac mae eu cyflwyniadau terfynol yn dangos yr hyn y gallan nhw ei ddysgu mewn 48 awr yn unig.”
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, ac un o feirniaid y gystadleuaeth:
“Rydyn ni wrth ein boddau mai ni oedd yr unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gyfranogi yn Invent for the Planet. Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein gallu i ddenu'r myfyrwyr gorau i astudio gyda ni, a dangosodd Invent for the Planet eu creadigrwydd entrepreneuraidd a'r hyn y gallan nhw ei wneud. Roedd y cysyniadau, y prototeipiau a'r cynigion y gwnaethon nhw eu datblygu mewn 48 awr yn unig yn nodedig a hoffwn i longyfarch yr holl dimau am eu cyflawniadau.”
Noddwyd y digwyddiad eleni gan yr Engineers in Business Fellowship. Cafodd ei ddarparu gan dîm ar draws y Brifysgol, gan gynnwys arbenigwyr o'r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi, Partneriaethau Academaidd ac o'r adrannau Peirianneg, Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth.
Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â phrifysgolion yn Nhecsas