Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod ceirw braenar newydd-anedig yn wahanol o ran patrymau cysgu a chyfradd datblygiad o enedigaeth ar sail unigol, fel y gwelwn mewn babanod newydd-anedig, yn yr astudiaeth gyntaf o'i bath gan Brifysgol y Frenhines Belfast.
Roedd yr ymchwilwyr wedi cofnodi ymddygiad cysgu ceirw braenar newydd-anedig maes yn ystod pum wythnos gyntaf eu bywydau ym Mharc Phoenix, Dylun. Defnyddion nhw dechnoleg bio-gofnodi fymryn yn fewnlifol, a ddatblygwyd gan WildBytes a Labordy Abertawe ar gyfer Symudiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe, i olrhain yr anifeiliaid wrth iddynt aros yn gudd yn y goedwig a'r llystyfiant, wedi'u gwahanu oddi wrth eu mamau a'r hyddgant ehangach.
Mae cwsg da yn hanfodol ar gyfer iechyd mewn bodau dynol ac anifeiliaid eraill, gan chwarae rôl hanfodol mewn datblygiad. Mae'r astudiaeth hon yn dangos y gwahaniaethau unigol amlwg a chyson ymysg ceirw o ran faint o gwsg, ansawdd y cwsg a darniad y cwsg, yn ogystal â'r gyfradd datblygu cwsg - yn ystod wythnos gyntaf eu bywyd, roedd y ceirw a gysgodd leiaf wedi cysgu tua hanner yr amser y ceirw a gysgodd fwyaf.
Mae'r astudiaeth, sydd wedi'i harwain gan Brifysgol y Frenhines Belfast mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi'i chefnogi gan Goleg Prifysgol Dulyn, wedi'i chyhoeddi yn Animal Behaviour. Cafodd ei chefnogi trwy ysgoloriaeth ymchwil PhD Adran yr Economi trwy Brifysgol y Frenhines a'r Gymdeithas ar gyfer Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (ASAB).
Wrth wneud sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd Dr Isabella Capellini, Darllenydd ym Mhrifysgol y Frenhines Belfast: "Dyma’r astudiaeth gyntaf o'i bath sydd wedi edrych ar arferion cysgu rhywogaethau newydd-anedig yn y gwyllt ac wedi dangos bod cwsg ceirw braenar newydd-anedig yn lleihau'n gyflym ac yn sefydlogi yn ystod pum wythnos gyntaf eu bywydau.
"Mae ein canlyniadau'n awgrymu y gall gwahaniaethau rhwng ceirw ifanc gael goblygiadau pwysig ar iechyd y ceirw ifanc yn y dyfodol a gall adlewyrchu syndromau bwrlwm bywyd, dyma sut mae unigolion yn buddsoddi mewn twf, atgenhedlu ac iechyd ar hyd eu hoes.
Edrychodd yr ymchwil hefyd ar yr amodau a oedd yn effeithio ar ymddygiad cysgu'r ceirw ifanc a darganfuwyd bod amser cysgu wedi'i leihau ac o ansawdd is ar ddiwrnodau cynnes, ac yn llai eto mewn tywydd clòs, ond yn uwch ar ddiwrnodau gyda mwy o law.
Gan ychwanegu at sylwadau Dr Capellini, dywedodd yr Athro Luca Börger o Brifysgol Abertawe: "Mae deall ecoleg cwsg anifeiliaid gwyllt yn bwnc diddorol a phwysig iawn, ond nid ydym yn gwybod unrhyw beth amdano, yn sgîl yr anawsterau o gofnodi cwsg mewn ffordd an-fewnlifol mewn anifeiliaid sy'n byw'n rhydd. Rydym yn dangos sut gall mesurydd sydd wedi'i osod ar anifail (synwyryddion sy’n debyg i'r rhai sy'n cael eu defnyddio mewn Fitbits a ffonau symudol), ynghyd â defnyddio dulliau meddalwedd i ddadansoddi'r data, yn ein galluogi ni i ymchwilio i gwsg yn y gwyllt am y tro cyntaf."