Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Oluwaseun Ayodeji Osowobi, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i fod yn arweinwyr effeithiol yn ystod ymweliad diweddar â Champws Singleton pan gymerodd amser i gwrdd â myfyrwyr a recordio podlediad i fyfyrwyr.
Daeth yr ymgyrchydd a'r actifydd Oluwaseun i Brifysgol Abertawe o'i chartref yn Nigeria ac enillodd radd MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn 2012. Hi yw sylfaenydd yr elusen Stand to End Rape (STER) lle mae'n gweithio i addysgu am drais ar sail rhywedd a lleihau hynny yn Nigeria. Mae ei gwaith wedi ennill nifer o wobrau iddi, gan gynnwys Person Ifanc y Flwyddyn y Gymanwlad yn 2019 a chydnabyddiaeth fel Arweinydd Newydd Sefydliad Obama.
Mae ymweliad diweddaraf Oluwaseun ag Abertawe yn tanlinellu ei hymrwymiad i ysbrydoli arweinwyr ifanc a'i chysylltiad parhaus â'r Brifysgol. Bu'r ymweliad ychydig cyn iddi fynd i Wobrau Study UK y British Council, lle cafodd ei henwi'n Enillydd Byd-eang yn y categori Effaith Gymdeithasol am waith ei helusen Stand to End Rape (STER).
Wrth fyfyrio ar ei gwobr sydd ar ddod, dywedodd Oluwaseun ei bod yn teimlo'n emosiynol bod ei helusen STER yn cael ei chydnabod yn y DU am y gwaith y mae'n ei wneud i gefnogi menywod.
"Rwy'n llawn cyffro ac yn ddiolchgar, ond hefyd rwyf wedi fy herio — i wneud mwy ac i beidio â sefyll yn stond," meddai. "Rwyf am greu llwybr i'r rhai sy'n dod nesaf, er mwyn cynnig rhywun i osod esiampl sydd wedi creu effaith. Mae'n deimlad gwych ac rwy'n llawn cyffro i gynrychioli Abertawe ar gyfer y wobr hon."
Yn ystod ei hymweliad, pwysleisiodd bwysigrwydd cysylltu â myfyrwyr a chwrdd â myfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol a recordiodd bodlediad myfyrwyr i fyfyrwyr rhyngwladol.
Meddai Oluwaseun: "Rwyf wedi bod ar fy nhaith i, ac mae'n bwysig iawn i mi fy mod i'n cynnig hynny yn ôl i bobl sy'n astudio ar hyn o bryd gan fy mod i am rannu fy ngwybodaeth helaeth â phobl eraill fel nad yw'r wybodaeth honno'n aros gyda mi yn unig.
"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dod o hyd i werth, ymdeimlad o gyfeiriad neu rywbeth yn yr hyn rwy'n ei ddweud a fydd yn eu helpu ar eu llwybr gyrfa. Ac felly bydd ganddynt sgiliau arweinyddiaeth a byddant yn gwybod beth sy'n ofynnol ganddynt pan fyddant yn dod yn arweinwyr eu hunain. Rwyf am ddod yma a chael cyfle i gysylltu â'r myfyrwyr sydd, i mi, yn galon Abertawe."
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Roeddem wrth ein boddau'n croesawu Oluwaseun yn ôl i'n campws cyn iddi gael ei henwi'n Enillydd Byd-eang yn y categori Effaith Gymdeithasol yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK y British Council. Mae ymroddiad Oluwaseun yn ymgorffori ysbryd y gwobrau uchel eu bri hyn, sy'n dathlu cyflawniadau rhagorol cyn-fyfyrwyr a addysgir yn y DU ac yn tanlinellu gwerth sylweddol addysg uwch y DU.
"Mae Oluwaseun wedi dangos sut y gall addysg fod yn rym trawsnewidiol ar gyfer daioni ac o fudd i gymunedau ledled y byd. Mae ei llwyddiannau rhyfeddol yn parhau i'n hysbrydoli ni i gyd."