Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth nodedig yn nhablau Complete University Guide 2025, gan sicrhau'r 37ain safle yn y DU.
Bob blwyddyn, mae'r Complete University Guide yn cyhoeddi tablau cynghrair prifysgolion a phynciau yn y DU i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu dyfodol.
Mae'r prif dabl cynghrair yn rhestru 130 o brifysgolion yn y DU yn seiliedig ar fesurau gan gynnwys safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion.
O’r wyth sefydliad yng Nghymru, mae Abertawe'n un o bedwar yn unig sydd wedi dringo yn y tabl eleni. Fe'i rhestrir yn ail ymysg sefydliadau o Gymru yn y canllaw.
Mae mesurydd Rhagolygon Graddedigion y canllaw'n dangos bod 82 y cant o raddedigion Prifysgol Abertawe'n sicrhau cyflogaeth ar lefel raddedig neu’n dilyn astudiaethau pellach ac fe'i rhestrir yn y 35ain safle yn y DU. Mae'r Brifysgol wedi dringo 21 o safleoedd i rif 44 yn y DU yn ôl y mesurydd Rhagolygon Graddedigion – Ar y Trywydd Iawn, ar ôl i 78 y cant o raddedigion gytuno eu bod ar y trywydd iawn o ran symud ymlaen yn eu gyrfa.
Mae'r tablau pwnc yn seiliedig ar chwe mesurydd (safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil, parhad, rhagolygon graddedigion – canlyniadau a rhagolygon graddedigion – ar y trywydd iawn) ac maent yn cynnwys 154 o brifysgolion, colegau prifysgol a sefydliadau addysg uwch arbenigol.
Cydnabyddir bod cyfanswm o 31 allan o 44 o bynciau (70 y cant) a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y 30 uchaf yn y DU, gan atgyfnerthu ei statws fel sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg amrywiol o safon uchel.
Mae saith pwnc pellach yn y 10 uchaf, mae 15 yn yr 20 uchaf ac mae naw arall wedi sicrhau safleoedd uchel eu bri yn y 30 uchaf.
Y pynciau sydd yn y 10 uchaf yw:
Meddygaeth Gyflenwol – 1
Gwyddoniaeth Barafeddygol – 2
Astudiaethau o Blentyndod ac Ieuenctid – 5
Astudiaethau Americanaidd – 5
Gwaith Cymdeithasol – 6
Ffarmacoleg a Fferylliaeth – 9
Technoleg Deunyddiau – 9
Dringodd Gwyddor Chwaraeon 12 o safleoedd – mwy na'r un pwnc arall eleni – o rif 27 i'r 15 uchaf yn y DU.
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (Rhyngwladol): “Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth sylweddol a chymeradwy yn nhablau Complete University Guide 2025, gan sicrhau'r 37ain safle yn y DU. Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ein hymrwymiad i ddarparu profiad addysgol eithriadol sy'n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus, fel y'i hadlewyrchir yn y sgoriau a'r tablau Rhagolygon Graddedigion.
“Mae'r tablau diweddaraf hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc, lle cyflawnodd Abertawe ei pherfformiad gorau erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol. Gyda phob anrhydedd, mae Prifysgol Abertawe'n cadarnhau ei statws fel canolfan ragoriaeth, sy'n adnabyddus am ei hymrwymiad diwyro i addysg o'r radd flaenaf ac ymchwil arloesol.”
Meddai'r Athro Amanda Chetwynd, Cadeirydd Bwrdd Cynghori'r Complete University Guide: “Mae data tablau Complete University Guide 2025 heddiw'n dangos gwerth addysg uwch wrth lywio gyrfaoedd graddedigion ledled y DU. Yn y farchnad swyddi gynyddol gymhleth a chystadleuol, mae'n wych gweld bod 80% o raddedigion yn symud yn gyflym i rolau ar lefel raddedig, yn ogystal ag achub ar gyfleoedd am ddysgu parhaus a datblygiad proffesiynol drwy astudiaethau ôl-raddedig.”