Mae Prifysgol Abertawe yn noddi pabell y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Meifod ym Maldwyn rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin.
Egni yw thema’r GwyddonLe eleni, a bydd modd i ymwelwyr o bob oed fwynhau arlwy amrywiol o weithgareddau o fyd gwyddoniaeth dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Abertawe.
Gall ymwelwyr ddysgu technegau adfywio cardio-pwlmonaidd yn stondin yr Ysgol Feddygaeth, profi eu sgiliau gwybyddol gyda her Stroop y tîm seicoleg, ac archwilio deinameg ynni beichiogrwydd a genedigaeth gydag arbenigwyr ym maes bydwreigiaeth. Bydd arddangosion bioleg yn amlygu llif ynni o gelloedd i ecosystemau, a bydd yr adran OPTIC yn gwahodd trafodaethau am newid yn yr hinsawdd drwy gemau rhyngweithiol. Bydd yr arddangosiad Dewiniaeth Ddigidol yn cynnig taith hiraethus drwy hanes cyfrifiadura yng Nghymru, gan gynnwys hen gemau fel Donkey Kong. Bydd profiadau realiti rhithwir yn ymwneud â phynciau ynni a newid yn yr hinsawdd, a bydd gweithgareddau Technocamps yn herio cyfranogwyr gyda robotiaid sy'n gallu datrys ciwb Rubik a gemau pêl-droed robotig. Bydd E-chwaraeon Cymru'n gwahodd y rhai hynny sy'n chwilio am gyffro i gystadlu mewn rasys ceir, gan brofi eu hyfedredd gyrru.
Un o brif ddigwyddiadau'r GwyddonLe erbyn hyn yw Her Sefydliad Morgan, cystadleuaeth siarad cyhoeddus sydd wedi bod yn denu cynulleidfa fawr ers rhai blynyddoedd bellach. Cynhelir y gystadleuaeth ar lwyfan y GwyddonLe ddydd Gwener 31 Mai, gan roi cyfle i ddisgyblion ysgol blynyddoedd 10 i 13 gyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn pwnc llosg cyfredol. Eleni, yr Athro Trystan Watson o Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe sydd wedi gosod y testun, sef: "Dyfodol Di-garbon i Gymru: Breuddwyd neu Realiti?". Yn cyd-feirniadu gyda’r Athro Watson bydd newyddiadurwraig BBC Radio Cymru, Heledd Siôn, wrth i ddisgyblion o Ysgolion Bryn Tawe, Ystalyfera a Gwent Is Coed gystadlu am y tlws a’r cyfle i’r siaradwr gorau gael profiad gwaith wedi ei drefnu gan Academi Hywel Teifi.
Meddai'r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Prifysgol Abertawe ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant: "Rydym yn hynod falch o bartneriaeth hirsefydlog Prifysgol Abertawe ag Urdd Gobaith Cymru, sydd wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn, mae’r GwyddonLe yn un o brif atyniadau maes y Brifwyl, gan groesawu degau o filoedd o bobl ifanc bob blwyddyn. Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu mwy fyth i babell GwyddonLe 2024 ym Meifod!"