Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi meithrin dealltwriaeth esblygiadol o ffenomenon hynod ddiddorol neoteni ymysg salamandrau tyrchol. Mae neoteni, lle mae organebau yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol wrth gadw nodweddion plentynnaidd, wedi bod yn destun chwilfrydedd ym maes bioleg o ganlyniad i'w strategaeth ddatblygiadol anarferol.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Ecology and Evolution, yn archwilio sut mae rhywogaethau penodol o salamandrau tyrchol yng Ngogledd America yn aros yn ifanc am byth, yn groes i gylch oes nodweddiadol amffibiaid. Esboniodd Dr Kevin Arbuckle: “Mae neoteni fel bod yn faban am byth, hyd yn oed os ydych chi'n oedolyn sy'n atgenhedlu'n arferol.”
Ymchwiliodd Dr Arbuckle a Thom Lyons, myfyriwr MRes, i leoliadau amrywiol salamandrau tyrchol, o'r mynyddoedd uchel i oddeutu lefel y môr a lledredau o Alaska a Chanada i Fecsico. Gwnaethant ddarganfyddiad hollbwysig – mae neoteni'n ffynnu mewn parth perffaith iddo ar ledred rhwng 20 a 30 gradd i'r gogledd, lle mae amgylchiadau yn gweddu “i'r dim”, chwedl Elen Benfelen, i alluogi salamandrau i aros yn ifanc am byth.
“Dychmygwch fod hon yn ardal arbennig lle nad yw salamandrau byth yn tyfu i fyny, yn debyg i stori Peter Pan,” meddai Dr Arbuckle. Mae'r parth hwn yn cynnig amodau sefydlog gydol y flwyddyn, sy'n hanfodol ar gyfer cylchoedd oes dyfrol, gan alluogi'r salamandrau unigryw hyn i beidio ag ymgymryd â'r trawsnewidiad arferol i fod yn oedolion. Ar ben hynny, mae'r ymwahaniad a ddarperir gan y mynyddoedd yn galluogi poblogaethau i ddargyfeirio o eraill, ac amrywiaethu'n gyffredinol i fod yn rhywogaethau neotenig arbenigol.
Un o ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth yw rôl hollbwysig y band lledredol cul hwn yng nghynefin deheuol salamandrau tyrchol. Yma, mae rhywogaethau'n arddangos neoteni anochel, heb newid ffurf byth, yn wahanol i rywogaethau cyfatebol mewn ardaloedd eraill lle mae neoteni'n digwydd ymysg rhai poblogaethau bach neu rai unigolion yn unig – os yw'n digwydd o gwbl.
“Mae'r parth sy'n gweddu i'r dim i neoteni'n cynnig cynefinoedd sefydlog ac arwyddion tymhorol llai, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer esblygu neoteni. Mae'r salamandrau hyn wedi ymaddasu i fywyd heb yr angen i newid ffurf, sy'n gofyn am egni sylweddol,” esboniodd Lyons.
Yn ddiddorol, mae'r astudiaeth yn herio rhagdybiaethau blaenorol am y cysylltiad rhwng neoteni a thymheredd. Yn groes i'r disgwyl, nid yw neoteni'n gysylltiedig â hinsoddau oerach, ond mae'n ffynnu mewn ardaloedd ag amgylcheddau dyfrol sefydlog a dyddodiad cyson.
Mae Lyons a Dr Arbuckle yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau'n taflu goleuni ar y pwysau esblygiadol sy'n llywio amrywiaeth ac ymaddasu ymysg amffibiaid.
Ychwanegodd Dr Arbuckle: “Mae deall neoteni'n ein helpu i werthfawrogi ffyrdd cymhleth organebau o ymaddasu i'w hamgylcheddau.”
Mae eu hymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd ymdrechion cadwraeth o ran rhywogaethau neotenig, y mae llawer ohonynt dan fygythiad o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a cholli cynefin. “Mae'r salamandrau unigryw hyn yn agored iawn i niwed ac mae angen targedu gweithredoedd cadwraeth ar eu cyfer,” pwysleisiodd Lyons.
Yn y dyfodol, nod y tîm yw archwilio sut gall newidiadau amgylcheddol, megis newidiadau hinsoddol sy'n deillio o weithgareddau pobl, effeithio ar ddosbarthiad a goroesiad y poblogaethau neotenig hyn.