Mae'r Deyrnas Unedig wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo arferion asesu ymchwil cyfrifol drwy greu Cangen Genedlaethol o'r Gynghrair Hyrwyddo Asesiadau Ymchwil (CoARA), a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe.
Nod menter CoARA yw meithrin cydweithrediad ac ysgogi newid sylweddol mewn arferion asesu ymchwil ledled y wlad.
Wedi'i harwain ar y cyd gan Brifysgol Strathclyde, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Loughborough, mae Cangen Genedlaethol CoARA yn y DU yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ymrwymedig i hyrwyddo diwygiadau systemig a myfyrio ar uchelgeisiau i ddiwygio asesiadau ymchwil.
Mae aelodaeth bresennol y Gangen Genedlaethol hefyd yn cynnwys CRAC-Vitae, Coleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, HDR UK (Ymchwil Data Iechyd y DU), Jisc, Prifysgol Metropolitan Manceinion, Prifysgol Nottingham Trent, Sefydliad Research on Research (RoRI), Software Sustainability Institute, ARMA (Cymdeithas Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil) y DU, UKRN (UK Reproducibility Network), Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, Prifysgol Derby, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Reading a Phrifysgol Warwick.
Ar ôl creu Cangen Genedlaethol y DU ym mis Chwefror 2024, cyfarfu'r grŵp llywio i gytuno ar flaenoriaethau ac arferion cyfnewid, a phenderfynu ar y camau nesaf.
Meddai Helen Griffiths, arweinydd Cangen Genedlaethol CoARA ym Mhrifysgol Abertawe: “Bydd Cangen Genedlaethol y DU yn gwasanaethu fel fforwm ar gyfer cydweithredu, rhannu arferion gorau ac ymdrin â heriau sy'n benodol i asesu ymchwil yn y DU. Drwy ymdrechion cydgysylltiedig ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ein nod yw ysgogi newid cadarnhaol yn y dirwedd ymchwil.”
Meddai Grace Murkett, arweinydd Cangen Genedlaethol CoARA ym Mhrifysgol Strathclyde: “Mae creu Cangen Genedlaethol CoARA yn y DU yn garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion ar y cyd i ysgogi newid cadarnhaol mewn arferion asesu ymchwil. Gan ddod ag arbenigedd ynghyd o bob rhan o dirwedd ymchwil y DU, mae cenhadaeth Cangen Genedlaethol y DU yn ddeublyg. Yn gyntaf, mae am hwyluso newid ystyrlon drwy helpu sefydliadau sy'n aelodau ac yn llofnodwyr i ddatblygu camau gweithredu i ddiwygio asesiadau ymchwil a rhoi'r rhain ar waith. Yn ail, mae'r Gangen yn ceisio hyrwyddo diwygiadau systemig drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid y tu allan i'r Gynghrair a dadlau dros fabwysiadu egwyddorion CoARA.”
Meddai Dan Parsons, arweinydd Cangen Genedlaethol CoARA ym Mhrifysgol Loughborough: “Mae CoARA yn cynnig fframwaith cadarn sy'n ategu mentrau fel DORA (Datganiad San Francisco am Asesu Ymchwil). Mae'n darparu ymagwedd strwythuredig at ysgogi newid sylweddol mewn arferion asesu ymchwil, gan sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd yn gyson wrth geisio meithrin diwylliant o werthuso ymchwil mewn modd cyfrifol.”
Yn y dyfodol, mae Cangen Genedlaethol y DU yn bwriadu darparu sesiynau gwybodaeth i ddarpar aelodau CoARA, trefnu cyfarfodydd chwarterol ag aelodau, cydlynu mewnbwn i weithgorau CoARA, ac ymgysylltu â sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau diwygio asesiadau ymchwil.