Mae cyffur a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer trin psorïasis yn effeithiol er mwyn trin camau cynnar diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc yn ôl treial clinigol newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd gyda chymorth Uned Dreialon Abertawe (STU) a Labordy’r Grŵp Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r astudiaeth newydd a ariennir drwy bartneriaeth rhwng y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a'r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), yn awgrymu bod Ustekinumab, cyffur a ddefnyddir i drin psorïasis ers 2009, yn effeithiol er mwyn cynnal gallu'r corff i gynhyrchu inswlin mewn cleifion diabetes math 1 sydd newydd cael diagnosis - gan ddod â'r nod o reoli'r math hwn o ddiabetes heb inswlin gam yn agosach.
Meddai Dr Danijela Tatovic, Uwch-ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd:
"Ceir diabetes math 1 pan fydd system imiwnedd y corff yn ymosod ar gelloedd y corff sy'n cynhyrchu inswlin ac yn eu dinistrio nhw. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod y person yn dibynnu ar bigiadau inswlin. Mae ymchwilwyr bellach yn datblygu ffyrdd i arafu neu atal yr ymosodiad hwn ar y system imiwnedd. Os gall triniaethau o'r fath gael eu dechrau'n gynnar, cyn i'r holl gelloedd cynhyrchu inswlin gael eu colli, gallai hyn atal neu leihau'r angen am inswlin.
Triniaeth drwy bigiad yw Ustekinumab y mae cleifion yn ei rhoi iddyn nhw eu hunain gartref unwaith bob deufis. Mae wedi cael ei defnyddio'n effeithiol wrth drin mwy na 100,000 o gleifion â chyflyrau imiwnedd sy'n amrywio o arthritis i lid y coluddyn yn ogystal â psorïasis ac ymddengys nad oes ganddo lawer o sgîl-effeithiau. Dyma'r tro cyntaf iddo gael ei brofi mewn treial clinigol a reolir mewn diabetes math 1.
Meddai'r Athro Tim Tree, Coleg y Brenin Llundain:
“Gwelwyd bod Ustekinumab yn lleihau lefel grŵp bach o gelloedd imiwn yn y gwaed o'r enw celloedd Th17". Mae celloedd Th17 yn gwneud dim ond 1 o bob 1,000 o gelloedd imiwnedd y gwaed, ond maen nhw'n achosi'r rhan fwyaf o'r broblem gyda diabetes math 1. Mae hyn yn esbonio pam nad oes gan Ustekinumab lawer o sgîl-effeithiau. Mae'n targedu'r celloedd trafferthus, wrth adael 99% o'r system imiwnedd yn rhydd - enghraifft wych o feddygaeth fanwl".
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Coleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Calgary. Gwnaeth Uned Dreialon Abertawe a Labordy’r Grŵp Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe helpu i ddylunio'r astudiaeth wreiddiol, ac roedd yr Uned Dreialon yn gyfrifol am reoli'r treial, y data, elfennau ystadegol a llywodraethu'r treial wrth i Labordy’r Grŵp Ymchwil Diabetes gynnal y dadansoddiad yn y labordy o ran sgrinio samplau a mesurau canlyniadau cychwynnol.
Profodd yr astudiaeth y driniaeth psorïasis ar 72 o bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed yn y 100 niwrnod cyntaf o gael diagnosis o ddiabetes math 1. Mae canfyddiadau'r astudiaeth wedi cael eu cyhoeddi yn Nature Medicine. Ar ôl 12 mis yn defnyddio Ustekinumab, canfu ymchwilwyr fod lefelau C-peptid - dull i fesur gallu'r corff i gynhyrchu inswlin - 49% yn uwch o'u cymharu â chymryd pigiad ffug (plasebo). Canfuwyd bod y driniaeth yn ddiogel iawn, heb fwy o sgîl-effeithiau na phigiadau plasebo.
Meddai'r Athro Colin Dayan, Athro Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd:
"Gwnaethom brofi'r driniaeth hon ar blant a phobl ifanc yr oedd eisoes angen triniaeth inswlin arnynt. Byddai'n well pe gallem drin hyn ar gam cynharach, tra bo'r plant yn iach, a'u hatal rhag angen inswlin. Diolch byth, mae gan Ustekinumab gofnod diogelwch digon da i gael ei ystyried ar gyfer ei ddefnyddio ar blant ar y cam cynnar hwn".
Meddai Dr Peter Taylor, Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd Prifysgol Caerdydd:
"Mae bellach yn bosib gyda phrawf gwrthgorffyn pigiad bys syml i ganfod plant a fydd yn datblygu diabetes math 1 flynyddoedd cyn y bydd angen inswlin arnynt. Drwy gyfuno sgrinio yn y ffordd hon â thriniaeth gynnar o Ustekinumab, mae'n ymagwedd addawol iawn i atal yr angen am inswlin. Bydd angen treialon pellach i gadarnhau hyn".
Meddai Dr Kym Carter, Uwch-reolwr Treialon ym Mhrifysgol Abertawe:
"Mae Uned Dreialon Abetawe wedi bod yn hynod falch o fod yn rhan o'r gwaith arloesol hwn ac wedi cydlynu a dadansoddi canlyniadau'r treial ar y cyd â'r Athro Dayan. Mae'r canfyddiadau'n gwneud cyfraniad pwysig at faes rheoli diabetes".
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil, Targeted reduction of a proinflammatory subset of Th17 T-cells by Ustekinumab is associated with C-peptide preservation in Type 1 diabetes, yn Nature Medicine.
Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan bartneriaeth rhwng y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a'r Cyngor Ymchwil Feddygol.