Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.
Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe a'i gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NNIISH yw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth a gofal iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.
Bydd NNIISH yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y byd academaidd, diwydiant a'r GIG sy'n esblygu'n barhaus. Ei nod yw cryfhau partneriaethau presennol a meithrin cynghreiriau newydd gan ddenu dawn ac annog buddsoddiad er mwyn rhoi hwb i'r economi leol a gwneud Abertawe yn arweinydd yn fyd-eang ym maes arloesi technoleg feddygaeth a thechnoleg chwaraeon.
Meddai'r Athro Keith Lloyd - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: "Rydym yn gyffrous i gyflwyno NNIISH, sef menter sy'n torri tir newydd ac sy'n ymroddedig i wella chwaraeon a llesiant ar draws Cymru a'r tu hwnt. Trwy feithrin cymuned ar draws meysydd chwaraeon, iechyd a thechnoleg, ein nod yw ysgogi atebion arloesol a fydd yn chwyldroi’r sector."
Os ydych chi'n gweithio ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth neu ofal iechyd a hoffech chi fod yn rhan o weledigaeth NNIISH - i drawsnewid tirwedd technoleg iechyd a thechnoleg chwaraeon yng Nghymru - cofrestrwch ar restr bostio NNIISH nawr.