Mae busnesau a sefydliadau'r trydydd sector ledled de Cymru yn cael cyfle i hybu arloesedd, meithrin gwydnwch a gwneud cysylltiadau gwerthfawr â chymorth arbenigwyr economi gylchol y Brifysgol.
Bydd y rhaglen Twf Glân, a gynhelir gan Gymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) – prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd – yn rhoi'r offer y mae eu hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r economi gylchol fel y gallant ddefnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac ecogyfeillgar bosibl.
Nod y rhaglen a ariennir yn llawn sy'n para chwe mis yw dangos i gyfranogwyr sut i weithio tuag at nodau sero net, gwella lefelau gwasanaeth, lleihau costau gweithredol a chyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae carfannau blaenorol wedi gweithio ar ystod o heriau cynaliadwyedd sy'n wynebu eu sefydliadau, o gynllunio cylch bywyd a rheoli gwastraff i leihau allyriadau ac optimeiddio adnoddau.
Diolch i'r Rhaglen Twf Glân, mae Heddlu De Cymru bellach ar y trywydd iawn i arbed £30,000 mewn biliau trydan.
Meddai'r Rheolwr Amgylcheddol Tristan Davies: "Roedd hwn yn gyfle gwych i gydweithio a thrafod syniadau ag eraill, a thrwy wneud hynny roeddem yn gallu nodi angen i wella'r ffordd rydym yn gwefru ein cerbydau trydan ac archwilio ffyrdd o gynnwys batris wedi'u hailgylchu yn y broses. Mae'n brosiect cyffrous a dechreuodd oherwydd y rhaglen CEIC."
Ychwanegodd Kate Williams, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Rwyf wedi gallu meithrin cymuned ymarfer effeithiol iawn o'm cwmpas. Mae'r cydweithwyr ar y cwrs wedi bod yn wych ac wedi dod o gefndiroedd amrywiol iawn o ran y sefydliadau maen nhw’n gweithio iddynt, ond mae ein gwerthoedd a'n hamcanion yn debyg iawn.
"Mae'r rhaglen wedi fy helpu i feithrin rhwydweithiau a llifoedd gwaith effeithiol sef llwybrau na fyddwn i wedi'u cymryd heb gymorth gan y CEIC."
Meddai cyfarwyddwr CEIC, Dr Gary Walpole: "Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle go iawn i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector o Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot weithio gyda'i gilydd i lunio cynlluniau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn meithrin gwydnwch i risgiau.
"Wrth i dargedau sero net swyddogol ffurfioli cysylltiadau amgylcheddol rhwng sefydliadau ar bob cam o'r gadwyn werth, ni fu erioed amser gwell i sefydliadau ddiogelu eu gweithrediadau yn y dyfodol."
Fel rhan o'r rhaglen mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai misol ac arhosiad preswyl deuddydd, lle byddant yn cael eu cefnogi i ddatblygu cynlluniau twf ac arloesi glân. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'r rhaglen yn dechrau eto ym mis Medi ac mae lleoedd ar gael o hyd.
Gwahoddir busnesau a sefydliadau trydydd sector o bob maint a diwydiant i ddysgu rhagor am y rhaglen a chyflwyno cais i gymryd rhan erbyn dydd Mawrth 10 Medi.