Gwirfoddolwyr yn plannu coed mewn cae.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd cam newydd tuag at ddyfodol gwyrddach trwy blannu dros 300 o goed, un ar gyfer pob myfyriwr sy'n graddio o'i Hysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yr wythnos hon.

Wedi'i harwain gan Gymdeithas Goed Prifysgol Abertawe, ysbrydolwyd y fenter Plannu Coed Graddio gan ddeddfwriaeth gan llywodraeth Ynysoedd Philippines lle mae gofyniad i fyfyrwyr blannu deg coeden cyn graddio.

Dan y fenter, mae pob myfyriwr sydd wedi graddio o'r Ysgol yn ystod yr haf 2024 wedi cael coeden wedi'i phlannu yn ei enw a, chyn hir, bydd y myfyrwyr yn derbyn tystysgrif sy'n nodi  union leoliad GPS y goeden.

Mae 309 o goed o 16 rhywogaeth wahanol wedi cael eu plannu ac maent bellach yn goleuo coetir yn Townhill.

Meddai Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe: "Yn ogystal â chynnig dimensiwn newydd ac ystyrlon i'n dathliadau graddio, mae hefyd yn cyfrannu at iechyd ein planed a llesiant cenedlaethau'r dyfodol." Beth bynnag fydd eu camau nesaf, rydym wrth ein boddau o roi cyfle unigryw i'n graddedigion adael gwaddol diriaethol o'u hamser ym Mhrifysgol Abertawe ac un sy'n ein helpu ni i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. 

Mae'n hanfodol, yn yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn, ein bod yn cydweithredu i ddatgarboneiddio allyriadau carbon presennol ac atal effeithiau amgylcheddol wrth, ar yr un pryd, wneud iawn am nwyon tŷ gwydr presennol ac adfer byd natur. Mae'r fenter Plannu Coed Graddio yn cefnogi ymrwymiad y Brifysgol i gyflawni Sero Net erbyn 2035 a'n targedau Natur Gadarnhaol."

Mae'r fenter eisoes wedi cael effaith sylweddol, ond nid diwedd y gân yw hyn. Mae'r Gymdeithas Goed wedi ymrwymo i ddarparu gofal parhaus i'r coed ifanc sydd newydd eu plannu, gan gynnwys amnewid coed nad ydynt yn goroesi i sicrhau cynaliadwyedd y cynllun peilot am flynyddoedd i ddod.

Drwy gydol y fenter hynod o lwyddiannus, mae'r Gymdeithas Goed wedi derbyn cefnogaeth gan sawl mudiad.

Meddai Jean-Louis Button, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a Llywydd y Gymdeithas Goed: "Gwnaeth Grant Cymunedol Prifysgol Abertawe ein helpu i brynu coed a chyfarpar er mwyn gwireddu'r prosiect, ac rydym wedi cael llawer o gymorth gan Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a'r cwmni cosmetig LUSH. Mae ein cyflenwyr coed, Coed Cadw a'r Gwirfoddolwyr Cadwraeth hefyd wedi bod yn anhygoel.

“Heb y gefnogaeth hon a'r rhoddion hael, ni fydden wedi gallu gwneud yr hyn rydym wedi'i gyflawni, gan nad ydym yn codi tâl ar ein haelodau i fod yn rhan o'r clwb!”

Gan edrych tua'r dyfodol, mae'r Gymdeithas Goed yn gobeithio ehangu'r rhaglen i gynnwys holl raddedigion y dyfodol, gan ledaenu'r neges o gyfrifoldeb amgylcheddol a chynaliadwyedd ledled cymuned y Brifysgol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Goed a'i phrosiectau sydd ar ddod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe a sut mae ei hymchwil yn helpu i gadw a gwarchod y byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhannu'r stori