Dwy ddelwedd: Pentwr o lyfrau ochr yn ochr â chopi o’r un llyfr a dynes yn gwenu yn sefyll y tu allan o flaen ffens a rhai coed.

Bydd pobl awtistig yn aml yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol ond erbyn hyn mae llyfr newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio gwella dealltwriaeth rhwng niwroteipiau.

Yn Understanding Others in a Neurodiverse World,  mae Dr Gemma Williams yn ceisio esbonio sut y gallwn ni i gyd gyfathrebu'n well er gwaethaf ein gwahaniaethau. 

Mae'n ceisio gwneud synnwyr o'r diffyg cyfathrebu a geir yn aml rhwng pobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig gan ddefnyddio damcaniaeth perthnasedd - fframwaith sy'n cael ei ddefnyddio i esbonio sut mae bodau dynol yn deall ei gilydd. 

Meddai:  "Yn hanesyddol mae'r dadansoddiadau hyn mewn cyd-ddealltwriaeth wedi cael eu fframio fel namau cyfathrebu awtistig, ond mae fy ngwaith yn ail-fframio'r camddealltwriaethau hynny fel problem ddwyffordd ac yn cynnig esboniad damcaniaethol o pam y gallent fod yn digwydd ­­­ac, yn y pen draw, sut i'w hatal. 

"Fel ieithydd awtistig ac athro iaith, roedd yn hynod ddiddorol i mi sylwi ar sut roedd pobl awtistig a phobl nad oeddent yn awtistig yn methu cyfathrebu weithiau, ond eto i gyd roedd gweithwyr proffesiynol rhyngwladol roeddwn yn eu haddysgu a oedd yn defnyddio Saesneg fel ail neu drydedd iaith yn aml yn deall ei gilydd yn hawdd. 

"Oherwydd hyn sylweddolais nad yw cyfathrebu yn ymwneud â'r geiriau rydyn ni'n eu defnyddio mewn gwirionedd ond y gallu i rannu gofodau gwybyddol, a gwnaeth damcaniaeth perthnasedd ddatgelu ei hun fel dull defnyddiol iawn ar gyfer deall hynny i gyd."

Bydd Dr Williams, sy'n swyddog ymchwil gyda'r prosiect Autism: from Menstruation to Menopause a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a siaradodd hefyd am y gyfrol a'i hymchwil yng  Ngŵyl ALSO eleni. 

Mae'n dweud bod y llyfr ar gyfer darllenwyr cyffredinol: "Mae pobl awtistig a phobl niwroamrywiol fel arall a'u hanwyliaid yn gynulleidfa graidd, ond felly hefyd bobl sydd â diddordeb mewn iaith a gwyddor wybyddol, addysgwyr a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol." 

Mae Understanding Others in a Neurodiverse World ar gael i'w archebu ymlaen llaw nawr 

Darllenwch ragor am ymchwil i awtistiaeth ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori