Tair dynes yn gwenu yn sefyll o flaen adeilad

Katarzyna Przybycien ac Antonella Sorace, o Bilingualism Matters gyda Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe.

Mae'r sefydliad byd-eang ymchwil a chefnogaeth i amlieithrwydd Bilingualism Matters yn agor ei ganolfan gyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe. 

Mae  Bilingualism Matters @ Prifysgol Abertawe yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, grwpiau cymunedol, gweithwyr addysg proffesiynol a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddathlu manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn y cartref, yr ysgol, y gweithle a'r gymuned. 

Dan arweiniad Dr Gwennan Higham o'r adran Gymraeg a Dr Vivienne Rogers o Ieithyddiaeth Gymhwysol, bydd y gangen yn cyflawni cenhadaeth gyffredinol Bilingualism Matters i hyrwyddo dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus am ddwyieithrwydd a dysgu ieithoedd drwy ymgysylltu â chynulleidfa eang, a sicrhau bod ymchwil yn cael ei datblygu mewn cydweithrediad â chymunedau - y cyfan gyda chefnogaeth Canolfan Ymchwil Ieithoedd.

Yng nghyd-destun Cymru, bydd dwyieithrwydd Cymraeg<>Saesneg yn ffocws pwysig, ond mae gan y tîm ddiddordeb hefyd yn y rôl sydd gan ieithoedd rhyngwladol. Nod y gangen yw archwilio'n gydweithredol a rhannu syniadau ar sut i gefnogi dysgu ieithoedd yn well a sut i gyfathrebu ymchwil ar fuddion niwrolegol, seicolegol a chymdeithasol siarad mwy nag un iaith.

Wrth gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i annog dysgwyr i ddatblygu galluoedd yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol eraill, mae'r gangen hefyd yn anelu at roi hyder i deuluoedd drwy ddangos manteision dwyieithrwydd ac annog dwyieithrwydd ac amlieithrwydd drwy rwydweithiau cymorth sydd wedi'u datblygu'n well.  

Meddai Dr Higham: "Mae agor y gangen gyntaf yng Nghymru o Bilingualism Matters yma ym Mhrifysgol Abertawe yn anrhydedd o'r mwyaf, ac rydym wrth ein bodd i gyfrannu at dîm rhyngwladol o ymchwilwyr iaith ac ieithyddiaeth. 

"Gobeithiwn y bydd y gangen yn gweithredu fel canolfan ar gyfer hyfforddiant, cefnogaeth ac ymchwil i gymunedau amlieithog.  Mae gan Abertawe amrywiaeth anhygoel ac rydym eisiau dod ag academyddion a chymunedau at ei gilydd i gydweithio ar brosiectau ymchwil, gan arwain at effeithiau byd go iawn a gwella mynediad i adnoddau cefnogol ar gyfer teuluoedd a chymunedau sy'n siarad amryw o ieithoedd.

"Mae ein meysydd ymchwil yn amrywiol, yn cynnwys y defnydd o gaffael iaith i gefnogi datblygu'r ymennydd wrth frwydro Alzheimer's; cefnogi ceiswyr lloches a chadw ieithoedd lleiafrifol; manteision dwyieithrwydd ar gyfer ymgysylltiad diwylliannol; manteision addysg ddwyieithog, a llawer mwy. Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau a chynadleddau, gwella ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd a'r rôl hanfodol y gall ei chwarae mewn diwylliannau a chymunedau."

 

 

Rhannu'r stori