Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Doethuriaeth mewn Llên er Anrhydedd i Huw Chiswell, gan gydnabod ei yrfa nodedig ym myd cerddoriaeth a'r celfyddydau creadigol, yn ogystal â'i statws eiconig yn niwylliant yr iaith Gymraeg.
Cafodd Huw Chiswell ei eni yng Nghwm Tawe ym 1961 a'i fagu ym mhentref glofaol Godre'r Graig, ac mae wedi dod yn ffigwr adnabyddus yn y diwylliant Cymraeg.
Aeth ei daith addysgol ag ef o Ysgol Gynradd Pant-teg i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera ac, yn y pen draw, i Brifysgol Abertawe lle enillodd radd yn y Gymraeg ym 1982.
Ar ôl graddio, dechreuodd Huw ar yrfa ym myd y teledu gydag HTV yng Nghaerdydd, gan fynd o fod yn ymchwilydd rhaglenni i rôl cyfarwyddwr-gynhyrchydd. Creodd sioeau llwyddiannus yn Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys y gyfres a dorrodd dir newydd, Swig, a enillodd BAFTA am Gyfraniad at Adloniant Ysgafn ym 1993, a rhaglenni sgetsys poblogaidd megis Torri Gwynt a Pobol y Chyff.
Roedd gan Huw bresenoldeb nodedig ar y sgrin hefyd, gan gynnwys ei rôl gofiadwy fel Carlos yn y ffilm gwlt Ibiza! Ibiza! gan S4C. Y tu hwnt i fyd y teledu, mae wedi ffynnu fel awdur, cyflwynydd, canwr a chyfansoddwr. Mae ei gynyrchiadau wedi ennill clod rhyngwladol, gan gynnwys gwobr aur yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd.
Yn adnabyddus ledled Cymru yn ôl ei lysenw 'Chiz', mae enw Huw Chiswell yn gyfystyr â phop a roc Cymraeg. Ac yntau’n fab i athrawes cerddoriaeth, Caryl, dechreuodd ei daith gerddorol yn y bandiau Y Crach a'r Trwynau Coch. Bu troad allweddol yn ei yrfa pan enillodd ei gân Y Cwm gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1984, gan arwain at gontract recordio a rhyddhau chwe albwm.
Y flwyddyn ddilynol, cyfansoddodd Dwylo dros y Môr ar gyfer ymgyrch elusen Band Aid Bob Geldof er mwyn codi arian at gymorth ar gyfer y newyn yn Ethiopia. Hon oedd y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd siart senglau'r DU.
Mae apêl eang gan gerddoriaeth Huw, sy'n archwilio themâu o ddirywiad diwydiannol i frwydrau cymunedol ac mae'n cynnwys dylanwadau o jazz i roc. Mae ei ganu emosiynol a'i alawon cofiadwy wedi gwneud ei ganeuon yn fythol boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd Cymraeg.
Yn 2022, perfformiodd disgyblion hen ysgol Huw, Ysgol Gyfun Ystalyfera, sioe yn seiliedig ar ei fywyd a'i ganeuon yn theatr newydd sbon yr ysgol, Theatr Chiswell a enwyd er teyrnged iddo ef a'i fam ddiweddar, Caryl.
Yn dilyn cyfnod llwyddiannus fel Comisiynydd Adloniant Ysgafn yn S4C, mae Huw wedi parhau i ragori fel cynhyrchydd dramâu annibynnol. Ei brosiect diweddaraf, Dal y Mellt (Rough Cut) oedd y gyfres ddrama Gymraeg gyntaf i gael ei phrynu gan Netflix ac ers hynny, mae ail gyfres wedi cael ei chomisiynu.
Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd, meddai Huw Chiswell: “Rwyf yn hynod o falch o dderbyn yr anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe, fy alma mater ac ymhellach, prifysgol dinas fy nghynefin. Mae’n golygu llawer i mi. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fagu perthynas agosach fyth gyda’r sefydliad arbennig hwn a chyfrannu cymaint â phosib at ei ddiwylliant.”
Ychwanegodd yr Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae'n hyfryd gweld Huw Chiswell yn derbyn yr anrhydedd hon am ei gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth a'r diwydiannau creadigol Cymraeg. Mae Cwm Tawe yn gwbl greiddiol i hunaniaeth Huw Chiswell, ac yntau wedi’i naddu o’r graig honno y canodd mor fendigedig iddi ac felly mae'n gwbl addas bod ei Brifysgol leol a hefyd ei alma mater, Prifysgol Abertawe, yn cydnabod ei ddoniau a'i waith yn y modd hwn."