Dr Rebecca Cliffe

Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Dr Rebecca Cliffe gan Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith sy’n torri tir newydd ym maes cadwraeth diogod.

Mae ymroddiad Dr Cliffe a'i brwdfrydedd am fywyd gwyllt wedi cyfrannu'n sylweddol at ddeall a chadw diogod, sy'n un o'r rhywogaethau mwyaf dirgel yn y byd ac yn un sydd mewn perygl mawr.

Daeth Dr Cliffe i gyswllt â diogod am y tro cyntaf pan oedd hi'n astudio ar gyfer gradd Baglor mewn Sŵoleg ym Mhrifysgol Manceinion. Arweiniwyd hi gan ei brwdfrydedd am yr anifeiliaid unigryw hyn i Costa Rica yn 2009 am leoliad ymchwil 12 mis. Yno, sylweddolodd hi fod diffyg gwybodaeth wyddonol am ddiogod a'u hanghenion cadwraeth, ac oherwydd hynny, penderfynodd hi ddefnyddio ei gyrfa i astudio'r mamaliaid diddorol hyn sy'n byw mewn coed.

Yn ystod ei hastudiaethau ôl-raddedig, arddangosodd Dr Cliffe fenter fawr drwy godi $150,000 drwy ariannu torfol i gefnogi ei hymchwil. Yn sgîl yr ymdrech hon, cynhaliodd hi'r astudiaeth hiraf ar gofnod o ecoleg diogod gwyllt a datblygodd hi'r protocol llwyddiannus cyntaf ar gyfer ailsefydlu diogod amddifad yn y gwyllt. Denodd yr ymgyrch sylw'r cyfryngau byd-eang, gan gynyddu ymwybyddiaeth a diddordeb mewn cadwraeth diogod yn fyd-eang.

Aeth ymrwymiad Dr Cliffe i'w hymchwil â hi'n ddwfn i goedwig law Costa Rica, lle treuliodd hi chwe blynedd yn byw ar ei phen ei hun yn jynglau Costa Rica, yn olrhain diogod gwyllt ac yn casglu data hollbwysig. Arweiniodd ei gwaith caled at PhD yn y Biowyddorau gan Brifysgol Abertawe yn 2017. Ers hynny, mae hi wedi cyhoeddi llawer o bapurau gwyddonol ar ecoleg, bioleg, geneteg a ffisioleg diogod, gan daflu goleuni ar effeithiau newid yn yr hinsawdd a threfoli ar boblogaethau diogod.

Y tu hwnt i'w hymchwil, sefydlodd Dr Cliffe y Sefydliad Cadwraeth Diogod, sydd bellach yn cyflogi deg aelod o staff yn un o daleithiau tlodaf Costa Rica. Mae ei gwaith gyda chymunedau, perchnogion tir a busnesau lleol wedi meithrin ymagwedd gydweithredol at gadwraeth bywyd gwyllt. Yn 2020, chwaraeodd hi rôl hollbwysig wrth gydnabod y diogyn yn symbol cenedlaethol swyddogol Costa Rica.

Mae Dr Cliffe hefyd yn awdur uchel ei pharch ac mae ei llyfr poblogaidd, "Life in the Slow Lane" a'i llyfr i blant, "The Adventures of Dr Sloth," wedi atgyfnerthu ymhellach ei dylanwad ar gadwraeth bywyd gwyllt.

Wrth dderbyn ei gradd er anrhydedd, meddai Dr Cliffe: “Ddeuddeng mlynedd yn ôl, mentrodd Prifysgol Abertawe drwy gefnogi fy nghynllun anghonfensiynol i wneud PhD o ddyfnderoedd coedwig law Costa Rica, lle gallwn i ymgolli ym myd diogod.

“Mae'n fraint bur gennyf dderbyn y dyfarniad hwn ac mae'n dyst i'r cymorth anhygoel a gefais a’r ffydd mae'r Brifysgol wedi’i dangos yn fy ngwaith. Rwy'n llawn cyffro am y dyfodol a'r posibiliadau ar gyfer cydweithrediadau pellach i ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol a datblygu cadwraeth bywyd gwyllt.”

Rhannu'r stori