Tiwnig hanesyddol ar fodel mewn arddangosfa ochr yn ochr ag arteffactau llai.

Mae tiwnig brin bellach yn ôl ac yn cael ei harddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe ar ôl dwy flynedd o waith adfer helaeth.

Mae'r diwnig yn rhan o Gasgliad Wellcome yn y Ganolfan Eifftaidd, ac fe'i prynwyd mewn arwerthiant gan Syr Henry Wellcome ym 1906. Ar y pryd, fe'i disgrifiwyd yn diwnig wedi'i gwneud o liain Coptaidd brodiog.

 Ond mae arbenigwyr bellach yn dweud nad yw ei gwneuthuriad panelog yn cyd-fynd ag unrhyw ddillad sydd wedi'u labelu'n Goptig mewn casgliadau amgueddfeydd pwysig eraill. Mewn gwirionedd, mae mwy o debygrwydd o ran gwneuthuriad â thiwnigau cyfnod Mamluk sy'n dyddio o 1250 i 1517 OC. 

Mae'r dilledyn yn cynnwys 13 o baneli lliain wedi'u haddurno â dyluniadau sidan glas, pinc, bwrgwyn a melyn. Mae’r patrymau lliwgar wedi’u gwehyddu rhwng ffibrau unigol y lliain, gan greu'r union ddelweddau ar y tu allan a'r tu mewn i'r diwnig. 

Cyn trin y diwnig, roedd ardaloedd mawr ar goll ar draws cefn yr ysgwyddau a'r gwddf, toriadau fertigol ar flaen ac ar gefn y dilledyn, staeniau mawr, a llinellau tywyll, brau. Roedd y diwnig wedi'i chrychu'n drwm, ar ôl cael ei storio'n wastad am flynyddoedd lawer, ac roedd hyd yn oed yn dangos arwyddion o olchi posibl mewn peiriant gynt.

Roedd y Ganolfan Eifftaidd am i'r diwnig gael ei sefydlogi a'i gosod ar ffigwr pren i'w harddangos yn well i'r cyhoedd. 

Cynhaliwyd y gwaith trylwyr yn labordy cadwraeth Prifysgol Caerdydd gan Deirdre Ellis a Jessica Morgan. Gan ddefnyddio eu harbenigedd, penderfynon nhw mai glanhau gwlyb fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ac ail-alinio gwead y lliain.  Roedd yn hanfodol bod cyn lleied o grychu â phosibl cyn atodi'r ffabrig sefydlogi, fel arall byddai'r plygiadau'n dod yn fwy brau, ac yn doradwy, dros amser. 

Cyn i'r glanhau ddechrau, profwyd darnau o'r diwnig a oedd eisoes wedi gwahanu oddi wrthi â sbectrosgopeg Is-goch Trawsffurf Fourier i bennu ffynhonnell y staenio. Cafwyd ychydig iawn o faw ar yr arwyneb, a oedd yn awgrymu ei bod wedi cael ei glanhau ers cael ei chanfod yn y ddaear, yn fwy na thebyg.  

Ar ôl glanhau panel o sidan, defnyddiwyd ffabrig crêpe i sefydlu'r dilledyn. Cafodd hyn ei bwytho yn ei le gan ddefnyddio edau gradd cadwraeth – roedd maint yr edau hynod fain yn galluogi'r pwythau i basio drwy wehyddu y lliain heb rannu'r ffibrau lliain. 

Defnyddiodd y ddau ohonynt binnau entomolegol main iawn a nodwyddau gleinwaith yn ystod y broses i leihau maint y pwytho a'r tyllau pinio. 

Er mwyn gosod y diwnig i'w harddangos, cafodd ffigwr pren siop ei badio i greu'r argraff o gorff o dan y dilledyn. Crëwyd leinin calico pwrpasol hefyd i helaethu'r diwnig ac i amddiffyn yr hem rhag gwaelod y cas arddangos. 

Nawr, mae ymwelwyr â'r amgueddfa ar gampws Singleton y Brifysgol yn mwynhau canlyniad eu gwaith caled. 

Meddai curadur y Ganolfan Eifftaidd, Dr Ken Griffin: "Rydym wrth ein boddau'n arddangos y diwnig eto. Mae gwaith anhygoel y myfyrwyr cadwraeth wedi trawsnewid ein harddangosiad tecstilau mewn gwirionedd, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ymwelwyr â'r amgueddfa wedi'u rhyfeddu gan ansawdd y gwaith cadwraeth. 

"Mae'r prosiect hwn wir yn dangos y bartneriaeth ardderchog rhwng y Ganolfan Eifftaidd ac adran gadwraeth Prifysgol Caerdydd." 

Mae'r diwnig bellach yn cael ei harddangos yn barhaol yn oriel Tŷ Bywyd y Ganolfan Eifftaidd, ochr yn ochr â thecstilau eraill o hanes yr Aifft. 

Ceir rhagor o wybodaeth yng nghatalog ar-lein y Ganolfan Eifftaidd

 

Tiwnig wedi'i hadfer bellach yn ôl i'w gweld yn y Ganolfan Eifftaidd from SwanseaUni on Vimeo.

Rhannu'r stori