Grŵp o ddisgyblion o Ysgol Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod arhosiad tri diwrnod o hyd diweddar ar y campws

Grŵp o ddisgyblion o Ysgol Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod arhosiad tri diwrnod o hyd diweddar ar y campws

O ddysgu yn y labordai i chwarae pŵl gyda ffrindiau, cafodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Dylan Thomas yn Abertawe flas ar yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr yn ystod arhosiad tri diwrnod o hyd diweddar ar y campws, wedi'i ddylunio i roi blas o fywyd yn y brifysgol iddynt.

Roedd y grŵp o 23 o ddisgyblion yn 12 ac yn 13 oed ac o Flwyddyn 8 yn yr ysgol, lle'r oeddent ar fin dewis y pynciau TGAU maen nhw eisiau eu hastudio.

Y syniad y tu ôl i'r ymweliad oedd rhoi profiad mor realistig â phosibl o fywyd myfyriwr i'r disgyblion.  Dyma pam roedd y cwrs yn un preswyl, am dri diwrnod a dwy noson, gyda'r disgyblion yn aros mewn ystafelloedd yn llety myfyrwyr ar Gampws y Bae y Brifysgol.

Yn ystod y dydd, cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau yn labordai peirianneg y brifysgol, yn cynnwys:

  • Gweithredu'r robotiaid technoleg uchel yn y labordy roboteg, yn cynnwys y ci robotig!
  • Helpu gydag arbrofion yn y labordai gwyddor chwaraeon, lle mae ymchwilwyr yn gweithio gyda sêr chwaraeon elît a phobl â chyflyrau iechyd, yn asesu symudedd, perfformiad a ffitrwydd
  • Profi deunyddiau hyd at eu torbwynt, i weld faint o straen y gallant ymdopi ag ef, yn y labordai peirianneg sifil

Trefnwyd yr ymweliad gan y tîm Ymestyn yn Ehangach, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe ac sy'n gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru.   Eu nod yw lleihau'r rhwystrau i addysg uwch, yn enwedig ymysg grwpiau targed allweddol:  er enghraifft, plant mewn ardaloedd lle mae llai o bobl wedi mynd i’r brifysgol yn hanesyddol, a gofalwyr yn eu harddegau.

Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth ac mae hefyd yn cynnwys Coleg Gŵyr, Gyrfa Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Caiff ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Yn ogystal ag ymweliadau preswyl â'r campws, mae'r tîm hefyd yn trefnu ymweliadau dydd ac yn mynd i ysgolion i weithio gyda grwpiau o ddisgyblion.  Y nod sy'n sylfaen i'w holl weithgarwch yw mynd i'r afael ag unrhyw syniad ymysg pobl ifanc nad yw'r brifysgol ar gyfer pobl fel nhw, ac i ddangos i ddisgyblion y gallai fod yn opsiwn iddyn nhw os dyna beth maen nhw eisiau ei wneud.

Cynhelir yr ymweliadau preswyl gan fyfyrwyr presennol yn Abertawe sydd wedi'u hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc ac yn sy’n gyflogedig fel rhan o'r tîm Ymestyn yn Ehangach.  Roedd rhai o'r arweinwyr myfyrwyr hyn yn ddisgyblion yn yr ysgolion y mae'r tîm yn gweithio gyda nhw ac yn cofio dod ar ymweliadau tebyg pan oeddent yn yr ysgol, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Cian, disgybl blwyddyn 8:

"Dwi ddim fel arfer yn gweld y pethau hyn yn ddiddorol ond dwi'n mwynhau'n fawr! Rwy'n hoffi dysgu am y Brifysgol."

Dywedodd Mr Tebay a Ms Quirk, athrawon yn Ysgol Dylan Thomas:

"Cafodd y disgyblion amser gwych! Gwnaeth y disgyblion fwynhau'r holl weithgareddau'n fawr ac roedd cydbwysedd da rhwng hyn ac amser rhydd/ymarfer corff a ychwanegodd at lwyddiant yr ymweliad."

Dywedodd Ben Hyde, Uwch-swyddog Datblygu'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, ym Mhrifysgol Abertawe:

"Ein nod yn Ymestyn yn Ehangach yw ehangu uchelgeisiau ein pobl ifanc.  Fel bod pob un ohonynt, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, yn gwybod y gall y brifysgol fod yn opsiwn iddyn nhw os dyna beth maen nhw eisiau ei wneud.  

Dyma pam mae’r ymweliadau preswyl rydym yn eu trefnu mor bwysig.  Maen nhw'n rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddod i gampws prifysgol a phrofi’r holl agweddau ar fywyd myfyriwr - y dysgu a'r bywyd cymdeithasol.  Gall helpu i chwalu rhwystrau a dangos bod y brifysgol yn lle iddyn nhw, os ydyn nhw eisiau dilyn y llwybr hwnnw.  Mae'n ymwneud â phlannu'r hedyn.

Roedd yn bleser croesawu'r grŵp o Ysgol Dylan Thomas ac roedd yn wych gweld faint roedden nhw wedi mwynhau eu hamser gyda ni." 

Ychwanegodd Emilia Titherly, Cydlynydd Digwyddiadau Ymestyn yn Ehangach:

"Yn ystod y digwyddiad preswyl, gwnaeth y bobl ifanc brofi egwyddor meddylfryd twf a’i rhoi ar waith. Gwnaeth pawb roi cynnig ar bethau newydd a gwthio eu hunain y tu hwnt i gysur eu cynefin. Cymerodd y bobl ifanc ran hefyd mewn gweithgareddau a oedd â'r nod o wella eu lles yn cynnwys glanhau'r traeth un bore lle gwnaethant gasglu 8 bag o sbwriel!"

Ymestyn yn Ehangach - mwy o wybodaeth

 

Rhannu'r stori