Cyhoeddir rhestr fer 2024 gwobr uchel ei bri Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies heddiw, dydd Iau 19 Medi.
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau oll nas cyhoeddwyd yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at 5,000 o eiriau ar y mwyaf gan lenorion 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd ym 1991, wedi cael ei chynnal 11 o weithiau hyd yn hyn. Yn 2021, cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.
Rhestr fer 2024:
- The Boys on the Bridge gan Brennig Davies
- Happy Mabon gan Morgan Davies
- Felix gan Kamand Kojouri
- Pachyderm Hiraeth gan Dave Lewis
- Scapegoat gan Kapu Lewis
- The Referendum gan Lloyd Lewis
- Sometimes I dream about a fish gan Polly Manning
- Echoes gan Siân Marlow
- Sunny Side gan Keza O’Neill
- A Dictionary of Light gan Tanya Pengelly
- Hearsay gan Anthony Shapland
- The Stopping Train gan Jo Verity
Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn £1,000 a bydd ei gynnig buddugol yn cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2024, a gyhoeddir gan Parthian Books ym mis Tachwedd 2024.
Caiff y 12 stori eu cynnwys yn Rhys Davies Award Antholegy 2024 a gyhoeddir gan Parthian. Wedi'i olygu gan Dr Elaine Canning, Cyfarwyddwr Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, bydd y casgliad hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr awdur ffuglen uchel ei bri a'r beirniad gwadd, Rebecca F John. Bydd pob un o'r llenorion ar y rhestr fer hefyd yn derbyn £100.
Meddai Rebecca F John: "Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies bob amser yn denu llenorion o'r radd flaenaf, ac nid yw eleni yn eithriad. Ymysg y straeon yr oedd yn fraint i mi eu dethol ar gyfer y rhestr fer, mae chwedlau sy'n amrywio o rai hynod bersonol i rai lled-academaidd, sy'n cael eu hadrodd o'r safbwynt dynol ac o safbwynt yr eliffant, rhai sydd â strwythur traddodiadol a rhai â strwythur arbrofol. Yr hyn a oedd yn arbennig am y straeon hyn, sydd yn aml yn wahanol iawn, yw'r ffaith bod y themâu sy'n cael eu harchwilio, ni waeth pa mor anuniongyrchol yw'r driniaeth, yn atseinio â gonestrwydd a dynoliaeth, sef rhinwedd fwyaf yr awduron gorau. Mae'n gyffrous meddwl amdanynt yn cyrraedd darllenwyr. Llongyfarchiadau enfawr i'r awduron am yr ymroddiad a'r dewrder maen nhw'n eu harddangos yn eu crefft.”
Meddai Dr Canning, golygydd yr antholeg: “Mae'r straeon sydd wedi cael eu cynnwys ar restr fer Cystadleuaeth Rhys Davies 2024 yn portreadu bywyd yn ei holl ffurfiau hardd, ingol, a gonest. Yma, ceir bywydau sy'n mynd drwy gyfnod o newid - rhwng diwylliannau ac ieithoedd, y presennol a'r gorffennol, breuddwydion a realiti. Mae cymeriadau, briwiedig a bregus, yn crwydro ac yn rhyfeddu. Mae hi'n fraint cynnwys gwaith y 12 awdur sydd ar y rhestr fer mewn antholeg a gyhoeddir yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth hon.”
Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, 20 nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.
Cyhoeddir yr enillydd ym mis Tachwedd 2024, a chaiff yr antholeg ei lansio ddydd Mercher 27 Tachwedd yn Waterstones Abertawe, yng nghwmni awduron y rhestr fer a'r enillydd cyffredinol, ynghyd â’r golygydd, Elaine Canning, y beirniad gwadd, Rebecca F John, a Chyfarwyddwr Parthian, Richard Davies.
Archebwch antholeg 2023, Harvest The Rhys Davies Short Story Award Anthology.