Mae dros 100 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws de-orllewin Cymru wedi dathlu graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, mewn seremoni arbennig o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Rhaglen ehangu mynediad yw Camu Ymlaen sy'n gweithio gyda grwpiau ar draws y rhanbarth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd Addysg Uwch (AU) ar hyn o bryd. Y prif ffocws yw myfyrwyr Blwyddyn 12 a'i nod yw helpu i newid bywydau drwy wneud addysg uwch yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr ifanc.
Ymunodd y graddedigion newydd â'r rhaglen ym Mlwyddyn 12, aethant i ddigwyddiadau amrywiol yn ystod y flwyddyn ac yna gwnaethant gymryd rhan mewn cwrs preswyl wythnos o hyd yn y Brifysgol yn yr haf.
Cefnogir y rhaglen gan dîm o fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe sy'n gweithio gyda myfyrwyr y chweched dosbarth a cholegau drwy gydol y rhaglen ac sy'n rhannu eu profiadau eu hunain o fywyd myfyrwyr. Eleni, cymerodd wyth myfyriwr presennol o Brifysgol Abertawe ran yn y rhaglen a gwnaeth y myfyrwyr hyn gymryd rhan yn y rhaglen pan roedden nhw yn y chweched dosbarth neu'r coleg.
Cwblhawyd 137 o fyfyrwyr y rhaglen Camu Ymlaen yn llwyddiannus. Golyga hynny, os byddant yn dymuno cyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddent yn elwa o ostyngiad yn y graddau y mae eu hangen ar gyfer mynediad i'r cwrs o'u dewis.
Yn y seremoni raddio, gwahoddwyd pob myfyriwr yn ei dro i'r llwyfan i raddio a dyfarnwyd tystysgrif iddo gan Jo Parfitt, Pennaeth y Gwasanaeth Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai Jay Keirl o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sydd am astudio gradd gydanrhydedd mewn seicoleg/troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe,
“Mae pob un ohonom sydd ar y rhaglen hon yn dod o gefndiroedd sy'n wirioneddol amrywiol; er gwaethaf hynny, mae'r ffaith honno wedi ein galluogi i ddechrau ar y rhaglen gyda meddylfryd agored a heb ragfarn. Roedd yn oleuol dysgu ffyrdd newydd o feddwl a dysgu ffeithiau difyr newydd a ffyrdd newydd o fyw. Oherwydd y rhaglen hon, rwy'n sicr fy mod i am gyflwyno cais i'r Brifysgol, ac i Brifysgol Abertawe yn benodol, i astudio'r radd gydanrhydedd mewn Seicoleg/Troseddeg.”
Meddai Casey Bolton o Goleg Gŵyr Abertawe, sydd am astudio'r Gyfraith yn Abertawe,
“Ar ôl i mi gwblhau'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, gallaf ddweud ei bod hi wedi rhoi ystod eang o wybodaeth werthfawr i mi am y Brifysgol yn gyffredinol ac am yr hyn y dylwn i ei ddisgwyl fel myfyriwr sy'n symud i fyd addysg uwch… mae'r rhaglen hon wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus am fy mhenderfyniadau addysgol yn y dyfodol… mae cwrdd â phawb wedi fy ngwneud i'n fwy cyffrous am fynd i'r Brifysgol.”
Meddai Abigail Sekyere o Goleg Gŵyr Abertawe, sydd am astudio fferylliaeth,
“Rwy'n teimlo mai'r hyn rwyf wedi'i ennill yn bennaf o'r rhaglen Camu Ymlaen yw hyder. Rwyf wedi cael cyfle i dawelu fy meddwl ynghylch fy mhryderon ond rwyf hefyd wedi cael y cyfle i gwrdd â llawer o bobl newydd ar hyd y daith ac rwyf wedi gwneud ffrindiau agos, hyd yn oed. Rwyf wedi dysgu am amrywiaeth o wasanaethau cymorth gwahanol sy'n fy ngwneud i'n hyderus bod gennyf wasanaethau i droi atynt os bydd eu hangen arnaf drwy gydol fy astudiaethau.”
Meddai Rebecca Griffiths, Uwch-swyddog Datblygu'r Rhaglen Camu Ymlaen,
“Roedd hi'n hyfryd dod ynghyd i wir ddathlu gwaith carfan 2024. Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi ysgogi ac ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i gyflwyno cais am gwrs yn y brifysgol.
“Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r myfyrwyr hyn yn ystod Blwyddyn 13 drwy gynnig y cyfle iddyn nhw fod yn bresennol yn ystod darlithoedd blwyddyn gyntaf ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i'n holl fyfyrwyr gyda'u hastudiaethau.”
Cyflwynwyd gwobrau arbennig yn ystod y seremoni raddio yn y categorïau canlynol hefyd:
- Ymrwymiad i'r rhaglen: Lucie Edwards o Ysgol Maesteg, Raven Davies o Goleg Gŵyr Abertawe a Warrick Eynon-Davies o Goleg Gŵyr Abertawe
- Cyflawniad academaidd uchaf: Isobel Gough o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Mae graddedigion Camu Ymlaen 2024 yn dod o'r ysgolion a'r colegau canlynol:
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Castell-nedd Port Talbot
- Ysgol Harri Tudur
- Ysgol Dyffryn Aman
- Ysgol Maesteg
- Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
- Ysgol Gyfun Cynffig
- Coleg Cymunedol y Dderwen
- Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
- Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
- Ysgol Gyfun Treforys
- Ysgol Gatholig a Chanolfan y Chweched Dosbarth San Joseff
- Ysgol yr Esgob Gore