Mae astudiaeth bwysig newydd a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Stefan Doerr, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt, ym Mhrifysgol Abertawe'n datgelu bod allyriadau carbon deuocsid (CO2) o danau coedwig wedi cynyddu 60 y cant yn fyd-eang ers 2001, gan dreblu bron mewn rhai o'r coedwigoedd boreal gogleddol.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Matthew Jones a fu gynt yn swyddog ymchwil yn Abertawe ac sydd bellach yn gweithio yng Nghanolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil i Newid yn yr Hinsawdd ym Mhrifysgol East Anglia (UEA). Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Science. Cafodd ardaloedd o'r byd eu grwpio fesul 'pyrom' - sef rhanbarthau lle caiff patrymau tanau coedwig eu llywio gan reolaethau amgylcheddol a hinsoddol tebyg - gan alluogi dealltwriaeth fwy eglur o'r gwahanol ffactorau sydd wedi llywio newidiadau diweddar o ran gweithgarwch tân.
Mae hon yn un o'r astudiaethau byd-eang cyntaf i archwilio'r gwahaniaethau rhwng tanau coedwig a thanau mewn amgylcheddau eraill, ac mae'n dangos i allyriadau tân dreblu bron yn un o'r pyromau mwyaf, sy'n rhychwantu coedwigoedd boreal yn Erwasia a Gogledd America, rhwng 2001 a 2023.
Arweiniodd y cynnydd mewn allyriadau at hanner biliwn o dunelli ychwanegol o CO2 y flwyddyn a oedd yn gysylltiedig â chynnydd mewn tywydd sy’n hyrwyddo amodau tân, megis yr amodau poeth a sych a welir yn ystod tonnau gwres a sychderau, yn ogystal â chyfraddau uwch o dyfiant mewn coedwigoedd gan greu rhagor o danwyddau llystyfiant. Mae cynhesu cyflym yn y lledredau gogleddol uchel yn hyrwyddo'r ddau duedd, sy'n digwydd ddwywaith yn gyflymach na’r cyfartaledd byd-eang.
Dywedodd yr Athro Doerr: “Er i ni ganfod dirywiad calonogol mewn tanau a'r allyriadau cysylltiedig o byromau trofannol, a bod hyn hefyd yn gysylltiedig â llai o danau datgoedwigo mewn coedwigoedd trofannol llaith, yn anffodus mae'r cynnydd mewn allyriadau o danau coedwig boreal gogleddol yn drech na hyn.”
Mae'r astudiaeth yn datgelu cynnydd pryderus o ran hyd a lled tanau coedwig dros y ddau ddegawd diwethaf yn ogystal â difrifoldeb y tanau hyn. Gwnaeth y gyfradd hylosgi carbon, a ddefnyddir i fesur difrifoldeb tân yn seiliedig ar faint o garbon a gaiff ei allyrru fesul uned o'r ardal a losgwyd, gynyddu bron 50 y cant ar draws coedwigoedd byd-eang rhwng 2001 a 2023.
Roedd y gwaith yn cynnwys tîm rhyngwladol o wyddonwyr - o'r DU, yr Iseldiroedd, UDA, Brasil a Sbaen - sy'n rhybuddio mai'r unig ffordd o osgoi rhagor o danau coedwig yw mynd i'r afael â'r prif bethau sy'n achosi newid yn yr hinsawdd, megis allyriadau tanwydd ffosil.
Dywedodd Dr Matthew Jones: “Mae ein canfyddiadau'n tanlinellu bod angen i lunwyr polisi ac asiantaethau amgylcheddol flaenoriaethu mesurau lliniaru hinsawdd a strategaethau rhagweithiol ar gyfer rheoli coedwigoedd fel mater o frys er mwyn amddiffyn yr ecosystemau hanfodol hyn rhag y bygythiad cynyddol o danau gwyllt.”
Mae coedwigoedd o bwys byd-eang o ran storio carbon, gan helpu i dynnu CO2 o'r atmosffer wrth iddynt dyfu ac wrth leihau cyfraddau cynhesu byd-eang. Mae ganddynt rôl hollbwysig hefyd wrth fodloni targedau hinsawdd rhyngwladol, wrth i gynlluniau ailgoedwigo a choedwigo gael eu rhoi ar waith i dynnu carbon o'r atmosffer a gwneud iawn am allyriadau CO2 dynol o sectorau lle mae’n anodd eu lleihau megis y sector hedfan a diwydiannau penodol.
Dywed yr awduron fod yr astudiaeth yn gwrthbrofi'r naratif bod gostyngiad cyffredinol yn yr ardaloedd o dir sy’n cael eu llosgi’n flynyddol gan dân yn fyd-eang yn cyfateb i ostyngiad yn effeithiau tanau gwyllt. Dengys fod tanau'n dod yn fwy cyffredin lle maent yn cyflwyno'r bygythiad mwyaf i bobl a storfeydd carbon hollbwysig.
Cefnogwyd y gwaith gan arianwyr sy'n cynnwys Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y DU (NERC), rhaglen Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd a'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.