Partneriaeth: chwith, University of Houston, gyda (o'r chwith) Dr Caroline Coleman Davies, Maggie Mahoney (UH), Yr Athro Lisa Wallace, Michael Pelletier (UH); de, Houston Methodist Research Institute gyda ymchwilwr PhD gydweithredol Simone Pisano yn y llun.

Partneriaeth: chwith, University of Houston, gyda (o'r chwith) Dr Caroline Coleman Davies, Maggie Mahoney (UH), Yr Athro Lisa Wallace, Michael Pelletier (UH); de, Houston Methodist Research Institute gyda ymchwilwr PhD gydweithredol Simone Pisano yn y llun.

Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a dau sefydliad yn Houston, Tecsas, sydd wedi cyflawni buddion i fyfyrwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru ac UDA, yn dathlu ei 10fed pen-blwydd.

Mae Prifysgol Houston a Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI) ill dau wedi'u lleoli yn ninas fwyaf Tecsas, sydd hefyd y bedwaredd fwyaf yn yr Unol Daleithiau.  

Mae Prifysgol Abertawe wedi meithrin cysylltiadau agos â'r ddau sefydliad dros y degawd diwethaf, fel rhan o'i Phartneriaeth Tecsas ehangach.  Y canlyniad yw dau gydweithrediad ffyniannus sydd wedi ysgogi ymchwil mewn meysydd o feddygaeth i seicoleg ac wedi rhoi cyfleoedd sy'n newid bywydau i fyfyrwyr drwy raglenni cyfnewid.

Mae Houston Methodist yn ddarparwr gofal iechyd mawr yn Nhecsas. Yn ei sefydliad ymchwil mae timau o glinigwyr ac ymchwilwyr yn gweithio ar droi darganfyddiadau yn driniaethau.  

Mae Prifysgol Abertawe ac HMRI yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu eu PhD gydweithredol. Yn y rhaglen hon, mae myfyrwyr yn treulio amser yn Abertawe ac yn Houston, gyda goruchwylwyr yn y ddwy ddinas, cyn graddio gyda PhD Abertawe "mewn cydweithrediad â" Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston.

Hyd yn hyn mae astudiaethau PhD wedi canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys canser yr ofari, cymwysiadau nanofeddygaeth, adfywio cartilag a chanser y prostad.

Hyd yma cafwyd 13 o gofrestriadau ar y rhaglen ac 8 o raddedigion, ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu'r rhaglen ar gyfer mwy o fyfyrwyr.

Yn ogystal, mae Abertawe ac HMRI wedi cyd-ysgrifennu 63 o gyhoeddiadau ers 2014, gan gynnwys bron i 200 o ymchwilwyr.

Mae Prifysgol Houston (UH), a sefydlwyd ym 1927, yn un o'r prifysgolion mwyaf yn Nhecsas, a chanddi oddeutu 46,000 o fyfyrwyr.  Mae manteision partneriaeth UH gyda phynciau a chyfadrannau ar draws Prifysgol Abertawe dros y degawd diwethaf yn cynnwys:

  • Rhaglenni symudedd myfyrwyr, gyda 130 o fyfyrwyr yn elwa hyd yn hyn, gan wella eu hymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a'u datblygu fel dinasyddion byd-eang.  Mae'r rhaglenni'n cynnwys cyfnewid myfyrwyr dwy ffordd, gyda blwyddyn neu semester dramor; ymweliadau byr i fyfyrwyr mewn meysydd fel nyrsio a nanofeddygaeth; ymweliadau dan arweiniad cyfadrannau ym meysydd nyrsio a gwaith cymdeithasol. Mae cyllid wedi dod gan Erasmus+, Taith, Turing a Sefydliad Americanaidd Prydeinig Tecsas, sydd wedi cefnogi'n hael raglenni cyfnewid Abertawe yn Nhecsas ers 2014.
  • Darlithoedd gwadd - 44 ers 2014 - lle mae arbenigwyr blaenllaw o'r ddau sefydliad yn rhannu eu harbenigedd ar bynciau hollbwysig fel ynni adnewyddadwy, newid yn yr hinsawdd, gofal iechyd cynhwysol a hawliau plant.
  • Cydweithrediad ymchwil, gyda 37 o gyhoeddiadau ar y cyd sy'n cynnwys bron 100 o ymchwilwyr. Un enghraifft yw astudiaeth ar raddfa fawr i asesu pa mor effeithiol yw ymwybyddiaeth ofalgar wrth leihau straen, dan arweiniad arbenigwyr Abertawe ac UH, gyda sefydliadau eraill ledled y byd. 
  • Rhannu arferion gorau mewn addysgu, ymchwil a gwasanaethau proffesiynol. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu mentrau newydd fel Cyfraith Stryd, rhaglen addysg am ddim i'r cyhoedd am y gyfraith a'u hawliau. Wedi'i sefydlu yn yr Unol Daleithiau, mae dros 100 o fyfyrwyr y Gyfraith yn Abertawe wedi ei haddasu ac wedi cyflwyno sesiynau i 300 o bobl yn ne Cymru

Mae Jan Syk, un o raddedigion Abertawe, yn esbonio sut y bu blwyddyn dramor ym Mhrifysgol Houston yn allweddol wrth egluro cyfeiriad ei yrfa:

"Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau mynd i ymarfer cyfreithiol cyn mynd i Decsas, ond roedd yn gam tuag at benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa: Pan roeddwn i yno, cymerais ddosbarth cyfraith droseddol lle roedd yr athro yn arfer eich rhoi yn erbyn eich cyfoedion ac yn gwneud i chi ddadlau safbwyntiau penodol yn erbyn eich gilydd o flaen y dosbarth. Cawsom ein marcio ar sail ein perfformiad, nid ar sail ennill neu golli. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli mai eiriolaeth yw fy angerdd, a'm huchelgais hirdymor yw dod yn fargyfreithiwr."

Meddai'r Athro Steve Conlan, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

"Mae ein partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston yn cynnig cyfle unigryw i astudio yn Abertawe ac yng Nghanolfan Feddygol Tecsas - cyfadeilad meddygol mwyaf y byd, ac mae ein rhaglen PhD wedi newid bywydau myfyrwyr, gan eu harwain at yrfaoedd ymchwil meddygol llwyddiannus yn fyd-eang. Fel un o'n partneriaid rhyngwladol arwyddocaol, mae Sefydliad Methodistaidd Houston yn chwarae rôl hanfodol yn ein hymgysylltiad byd-eang, ac edrychwn ymlaen at ehangu'r cydweithrediad hwn er budd rhagor o fyfyrwyr yn y dyfodol." 

Meddai'r Athro Lisa Wallace, Deon Cysylltiol (Rhyngwladol) y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd:

"Mae partneriaethau rhyngwladol yn ganolog i ddatblygu ein hymchwil ac maent yn hanfodol wrth baratoi graddedigion â'r cymwyseddau rhyngddiwylliannol y mae eu hangen i ffynnu mewn tirwedd fyd-eang. Mae ein cydweithrediadau yn Houston yn enghraifft o sut y gall ymgysylltu rhyngwladol wella ansawdd ein hymchwil, cyfoethogi ein haddysgu, a grymuso ein myfyrwyr i lwyddo ar lwyfan byd-eang."

Meddai Dr Caroline Coleman Davies, Dirprwy Bennaeth Partneriaethau Academaidd a Phennaeth y Bartneriaeth rhwng Abertawe a Thecsas:

"Mae ein partneriaethau strategol rhyngwladol wedi'u cynllunio i feithrin cydweithrediadau effeithiol, cynaliadwy a buddiol i'r ddwy ochr. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ein partneriaethau yn Houston wedi creu cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr a staff, gan gyfoethogi eu profiadau a gwneud y Brifysgol yn lle mwy bywiog ac apelgar i weithio ac astudio ynddo. Rwy'n hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf".

Rhannu'r stori