Bydd yr Athro'r Fonesig Wendy Hall, DBE, FRS, FREng, sy'n awdurdod blaenllaw ym maes Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chyfrifiadureg, yn traddodi Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe.
Cynhelir y ddarlith am 4pm ddydd Mercher 20 Tachwedd yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Yn dilyn y ddarlith, bydd sesiwn holi ac ateb a derbyniad anffurfiol.
Teitl darlith y Fonesig Wendy yw The Geopolitics of the Internet and Its Implications for the Governance of AI, a bydd yn archwilio dyfodol y rhyngrwyd o safbwynt geowleidyddiaeth a llywodraethu data. Bydd hi'n dadlau, o'r safbwynt hwn, fod o leiaf pedair rhyngrwyd, mwy efallai, yn hytrach nag un ecosystem gydgysylltiedig yn unig. Bydd y Fonesig Wendy hefyd yn archwilio pa agweddau ar lywodraethu seiberofod mae'n rhaid eu hamddiffyn fwyaf er mwyn i ni barhau i ddefnyddio isadeiledd technegol y rhyngrwyd rydym i gyd yn dibynnu arno i gefnogi gwasanaethau'r cwmwl a data, a sut mae hyn i gyd yn datblygu yn oes AI.
Mae Darlith Zienkiewicz, a enwyd er anrhydedd i arloeswr peirianneg gyfrifiadol Prifysgol Abertawe, yr Athro Olgierd Zienkiewicz, yn gwahodd ffigyrau blaenllaw ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg i gyflwyno eu gwaith am faterion cyfoes. Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae'r gyfres yn parhau i hyrwyddo ymchwil arloesol a'i heffaith ar gymdeithas.
A hithau'n arloeswr ym maes gwyddoniaeth y we, cyd-gadeiriodd y Fonesig Wendy Adolygiad AI llywodraeth y DU a chafodd ei phenodi i gorff cynghori AI y Cenhedloedd Unedig yn 2023. Ar hyn o bryd, mae'n Athro Regius Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Southampton ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddoniaeth y We. Mae ei hymchwil wedi cyfrannu'n sylweddol at lywodraethu amlgyfryngau, hypergyfryngau ac AI.
Mae'r Fonesig Wendy wedi ennill cydnabyddiaeth eang, gan gynnwys ei phenodi'n Gomander o’r Ymerodraeth Brydeinig yn 2009 a'i hethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn yr un flwyddyn. Bu ganddi rolau blaenllaw megis Llywydd y Gymdeithas Peirianwaith Cyfrifiadura ac Uwch Is-lywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg. Mae ei harweinyddiaeth yn ymestyn i gyrff cenedlaethol a rhyngwladol amrywiol a hi yw Prif Olygydd Open Science y Gymdeithas Frenhinol.
Gan hyrwyddo menywod ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, mae'r Fonesig Wendy wedi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod mewn meysydd STEM drwy ei heiriolaeth a'i harweinyddiaeth.
Mae Darlith Zienkiewicz am ddim ac ar agor i'r cyhoedd. Fe'ch anogir i gofrestru drwy Eventbrite ymlaen llaw.
Bydd y ddarlith hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw ar YouTube.