Mae pynciau ar draws y sbectrwm academaidd ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y gorau yn y byd mewn tabl cynghrair newydd.
Gwnaeth Safleoedd Pynciau Academaidd y Byd 2024 nodi 24 o bynciau Prifysgol Abertawe, cynnydd o 21 pwnc yn 2023, gyda thri phwnc yn cael eu cynnwys yn y 100 gorau yn y byd.
Mae'r canlyniadau, a luniwyd gan Shanghai Rankings, yn asesu 5,000 o brifysgolion mewn 96 o wledydd ar draws 55 pwnc, gan rychwantu'r Gwyddorau Naturiol, Peirianneg, Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Meddygol a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Gweinyddu Busnes oedd pwnc gorau Abertawe yn yr 20fed safle yn y byd, ac yna Wyddor Llyfrgell a Gwybodaeth, sydd rhwng safle 51 a 75 a Daearyddiaeth sydd rhwng safle 76 a 100.
Roedd tri phwnc ychwanegol - Peirianneg Fecanyddol, Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Gwyddor Ynni a Pheirianneg - rhwng safle 101 a 150 yn y tabl byd-eang.
Lansiwyd safleoedd GRAS yn 2009 ac maent yn defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion academaidd gwrthrychol a data trydydd parti i fesur perfformiad prifysgolion ledled y byd mewn pynciau amrywiol. Mae'r meini prawf yn cynnwys allbynnau ymchwil, dylanwad ymchwil, cydweithredu rhyngwladol, ansawdd ymchwil a gwobrau academaidd rhyngwladol.