Mae astudiaeth fawr, y gyntaf o'i bath, wedi datgelu mewnwelediadau allweddol ynghylch i ba raddau y mae gan blant o dan dair oed fynediad at dechnoleg ddigidol yn y cartref, sut maen nhw'n ei defnyddio a sut mae'n ategu datblygiad eu hiaith.
Mae'n datgelu bod plant yn cael eu geni i gartrefi sydd â llawer o dechnoleg - roedd gan 98% o'r teuluoedd a gymerodd ran yn arolwg ar-lein yr astudiaeth fynediad at ffôn clyfar ac mae gan yr un gyfran gysylltedd wi-fi.
Dywedodd bron pob teulu yn yr astudiaeth (92%) fod ganddynt deledu/deledu clyfar ac mae gan dros 80% liniaduron a/neu lechi.
Gwnaeth yr ymchwil hefyd gofnodi'r ystod eang o dechnoleg yn y cartref y mae plant yn rhyngweithio â hi, gan gynnwys dyfeisiau clyfar (megis ffonau clyfar, seinyddion clyfar, clychau drws clyfar), teganau rhyngweithiol, chwaraewyr sain a hyd yn oed offer domestig (oergelloedd clyfar a phaneli rheoli sy'n sensitif i gyffwrdd).
Toddlers, Tech and Talk, dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Manceinion, yw'r astudiaeth fanwl gyntaf am dechnoleg ym mywydau cartref plant o adeg geni hyd at 36 mis oed. Cafodd ei chynnal ar y cyd â Phrifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Abertawe, Prifysgol y Frenhines Belfast a Phrifysgol Strathclyde.
Meddai Rosie Flewitt, Athro Cyfathrebu Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion "Mae ystadegau swyddogol a thrafodaethau mewn cymdeithas yn aml yn tybio nad yw plant ifanc iawn yn defnyddio cyfryngau digidol. Mae ein hymchwil yn dangos nad yw hyn yn wir. Mae ein canfyddiadau'n cynnig mewnwelediadau angenrheidiol ar ryngweithiadau plant ifanc iawn ag ystod o dechnoleg ddigidol gartref."
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:
- Mae'r mwyafrif helaeth o rieni yn cytuno bod technoleg yn cynnig cyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau gyda rhifau (83%), darllen (75%) a sgiliau creadigol (75%), ac mae'r rhan fwyaf yn anghytuno eu bod yn niweidio dysgu.
- Mae llawer o rieni yn credu y gall dyfeisiau digidol fod yn niweidiol i iechyd corfforol plant ifanc (47%) a'u hiechyd meddwl (49%).
- Mae’r rhan fwyaf o rieni (81%) yn credu bod technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd i blant ifanc gael hwyl.
- Mae'r rhan fwyaf o rieni'n teimlo'n hyderus wrth gefnogi eu plentyn i ddefnyddio dyfeisiau (66%) ac yn teimlo eu bod yn gallu eu cadw'n ddiogel ar-lein (72%).
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys arolwg ar-lein o fwy na 1,400 o rieni ledled y DU, cyfweliadau â rhieni a gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, yn ogystal â 40 o astudiaethau achos dwys mewn cartrefi teuluol.
Ychwanegodd yr Athro Flewitt: "Mae rhieni'n ymwybodol iawn o gyfleoedd a thensiynau ynghylch defnydd eu plant o dechnoleg ddigidol. Maent yn cydbwyso cyfleoedd buddiol i'w plant gyfathrebu ag eraill, chwarae a dysgu, â phryderon ynghylch effeithiau niweidiol posibl gorddefnyddio'r dechnoleg."
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at y nifer o wahanol ffyrdd y mae rhieni'n defnyddio technoleg gyda'u plant, megis edrych ar ffotograffau a fideos, tynnu lluniau, gwylio rhaglenni, chwarae cerddoriaeth, creu paentiadau digidol a gwrando ar storïau.
Mae llawer o blant ifanc iawn hefyd yn gwylio fideos ac yn tynnu lluniau ar eu pennau eu hunain, ac mae rhai hefyd yn chwarae gemau digidol ar eu pennau eu hunain, gan gynnwys apiau dysgu rhifau a ffoneg. Mae'r astudiaeth yn cynnig rhagor o fewnwelediadau i sut y gall technoleg gynnig cyfleoedd cyfoethog ar gyfer datblygiad iaith plant ifanc iawn, megis siarad â'r teulu mewn galwadau fideo, gwrando ar ganeuon a rhigymau meithrin a chanu gyda nhw, gwylio a siarad am gymeriadau teledu poblogaidd gyda'u rhieni neu eu brodyr a’u chwiorydd.
Cytunodd rhieni a gymerodd ran yn yr astudiaeth fod profiadau digidol y plant ieuengaf mewn cymdeithas wedi cael eu hanwybyddu i raddau, bod angen gwneud mwy i sicrhau preifatrwydd a diogelwch plant, a bod angen gwybodaeth gyfoethocach ar oedolion am arferion da.
Meddai'r Athro Janet Goodall o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu clywed ac adrodd ar leisiau rhieni ac ymarferwyr yn y prosiect hwn, gan fod cyn lleied o ymchwil yn y maes hwn, sef rhyngweithiadau plant ifanc iawn â thechnoleg ddigidol. Mae rhieni wedi dweud wrthym eu bod yn meddwl llawer am y materion hyn ac yn gwneud dewisiadau bwriadol iawn i'w plant, ond hefyd y byddent yn croesawu rhagor o wybodaeth ac arweiniad. Mae bydoedd plant yn llawn technolegau digidol ac mae'r prosiect hwn wedi ein helpu i ddeall sut mae rhieni ac ymarferwyr yn ymdopi â'r dirwedd hon."
Ariannwyd yr astudiaeth hon am ddwy flynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).