Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i Malcolm Jones MBE, un o raddedigion nodedig Prifysgol Abertawe. Mae ei yrfa ragorol wedi arwain ato'n cael ei ystyried yn un o ffisegwyr mwyaf blaenllaw ein hoes.
Astudiodd Malcolm ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1961 a 1967, gan ennill anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg, cyn cwblhau PhD mewn Ffiseg Cyflwr Soled.
Ym 1967, cychwynnodd ar ei yrfa yn yr Atomic Weapons Establishment (AWE), gan ganolbwyntio ar drawsddygiaduron egni ffrwydrol-i-drydanol a'u defnydd - maes a oedd yn ei ddyddiau cynnar ar yr adeg honno. Derbyniodd ei waith arloesol gydnabyddiaeth ryngwladol, gan arwain ato'n rhoi cyflwyniadau yn yr Unol Daleithiau a gwneud cysylltiadau â gwyddonwyr enwog megis Isaak Pomeranchuk.
Fel cyfrannwr allweddol at ddatblygiad pennau ffrwydrol Trident y Deyrnas Unedig, mae etifeddiaeth barhaus Malcolm ym maes diogelwch niwclear. Mae ei waith wedi dylanwadu ar asesiad annibynnol a gwelliant diogelwch strategol pennau ffrwydrol, ac wedi llywio Cyd-weithgor y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau dan Gydgytundeb Amddiffyniad 1958, yr oedd yn Gadeirydd y Deyrnas Unedig arno am dros 20 mlynedd.
Mae Malcolm wedi cynghori'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar egwyddorion diogelwch ar gyfer arfau niwclear, ac mae ei gyfraniadau at fethodoleg diogelwch yn parhau'n sylfaenol. Mae wedi cynrychioli'r Deyrnas Unedig mewn cynadleddau rhyngwladol, gan gynnwys trafodaethau a digwyddiadau NATO yn Rwsia gan gadarnhau ei enw da fel awdurdod byd-eang ym maes diogelwch niwclear.
Mae ei anrhydeddau'n cynnwys medal fawreddog AWE John Challens ac MBE am ei gyfraniadau at ddiwydiant amddiffyniad y Deyrnas Unedig. Yn rhyfeddol, mae Malcolm yn parhau i weithio'n rhan-amser yn AWE, wedi’i ysgogi gan ei angerdd dros ddatblygu technoleg a diogelwch niwclear.
Y tu hwnt i'w gyflawniadau proffesiynol, mae Malcolm wedi ymgymryd â heriau yn ei fywyd personol, o redeg pellteroedd hir i gerdded yn yr Andes a mynyddoedd Himalaia gyda'i fab, Phillip.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Malcolm: "Roedd hwn yn sioc enfawr. Rwy'n falch iawn o gael fy anrhydeddu yn y ffordd hon gan y Brifysgol a ddarparodd y sail ar gyfer gyrfa gydol oes lwyddiannus mewn Ffiseg."