Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Brian Rhys Davies OBE, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, a hynny er mwyn cydnabod ei gyfraniadau nodedig i chwaraeon a'i gefnogaeth barhaus i arloesedd yn y rhanbarth.
Fel myfyriwr a raddiodd o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, roedd angerdd Brian dros chwaraeon yn amlwg drwy gydol ei gyfnod fel myfyriwr yma. Bu'n aelod o dîm rygbi'r Brifysgol, yn gapten ar y clwb, a bu'n rhan o Bwyllgor Rheoli'r Undeb Athletau. Paratôdd ei arweinyddiaeth a'i ymrwymiad i chwaraeon yn ystod yr amser hwn y ffordd ar gyfer gyrfa ragorol.
Cafodd Brian ei apwyntio fel Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru ym mis Chwefror 2023, ac mae'n goruchwylio gweithgareddau strategol a gweithredol y corff cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan weithio ochr yn ochr y Cadeirydd, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, a'r Bwrdd. Mae ei rôl yn adeiladu ar fwy na 25 mlynedd o brofiad ym maes rheolaeth chwaraeon, llunio polisïau a chwaraeon proffesiynol.
Mae gyrfa rygbi ragorol Brian yn cynnwys chwarae i Glwb Rygbi'r Saracens o 1990 i 1997, gan fod yn gapten ar y tîm o 1992 i 1996. Mae hefyd wedi meddu ar sawl rôl ddylanwadol oddi ar y cae rygbi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Chwaraeon Elît gyda Chwaraeon Cymru a rolau allweddol gydag AXA a Ford Motor Co. Brian hefyd oedd yn arwain wrth sefydlu Datblygu Golff Cymru, menter sy'n gysylltiedig â'r llwyddiant wrth gynnal y Cwpan Ryder yng Nghymru yn 2010.
Mewn chwaraeon rhyngwladol, Brian oedd y Rheolwr Tîm Cyffredinol ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010, cyn cael ei benodi'n Chef de Mission ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. Cydnabuwyd ei gyfraniad rhagorol i chwaraeon drwy ddyfarnu OBE iddo ym mis Tachwedd 2016.
Amlygir cysylltiad parhaus Brian â Phrifysgol Abertawe gyda'i gefnogaeth frwdfrydig am y prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £132m. Drwy gyfrwng y fenter hon, nod y Brifysgol a'i phartneriaid yw ysgogi arloesedd a thwf busnes mewn meysydd megis technoleg feddygol a chwaraeon, gan atgyfnerthu safle'r rhanbarth fel hyb ar gyfer datblygu arloesol.
Fel arweinydd ym maes chwaraeon ac eiriolwr ymroddedig dros bŵer trawsnewidiol chwaraeon, mae Brian Davies yn enghraifft o werthoedd ymroddiad, rhagoriaeth a chydweithio. Mae ei gyfraniad at chwaraeon yng Nghymru, fel athletwr proffesiynol ac fel lluniwr polisi, wedi cael effaith barhaus ar y sector a'r tu hwnt.
Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai Brian Davies: "Rwyf wrth fy modd i dderbyn cydnabyddiaeth gan Brifysgol Abertawe mewn ffordd mor arbennig, yn enwedig wrth ystyried y rôl ganolog y mae'r Brifysgol wedi'i chwarae yn fy natblygiad personol a phroffesiynol. Roeddwn mor ffodus i fod yn fyfyriwr mewn prifysgol mor arbennig ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb, boed yn y gorffennol neu nawr yn y presennol, sydd wedi chwarae rôl mor bwysig yn fy mywyd. Mae dyfodol disglair iawn o flaen y Brifysgol, ac rwy'n siŵr y byddaf innau a Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Abertawe, wrth i'r sectorau chwaraeon ac addysg uwch fynd i’r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau".