Joelle Drummond

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd Meistr yn y Celfyddydau i Joelle Drummond a hynny er mwyn cydnabod ei llwyddiannau arbennig fel entrepreneur arloesol a'i chyfraniadau at ddiwydiant, moeseg a chynaliadwyedd.

Fe astudiodd Joelle am BA Ffrangeg ac Eidaleg a gradd meistr mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym Mhrifysgol Abertawe, a sefydlodd y cwmni arloesol, Drop Bear Beer Co, yn 2019 ochr yn ochr â'i gwraig, Sarah McNena. Tarddiad y syniad ar gyfer y busnes hwn oedd rhwystredigaeth y ddwy ynghylch yr opsiynau cyfyngedig sydd ar gael yn y farchnad cwrw di-alcohol.

Dechreuodd y syniad yng nghegin Joelle, ond erbyn hyn Drop Bear Beer yw'r arbenigwr cwrw crefft di-alcohol gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae'n allforio ei gynnyrch i farchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys i Ganada a Seland Newydd.

Mae'r cwmni wedi derbyn canmoliaeth eang am ei fodel busnes arloesol a chynhwysol. Fel y bragdy cwrw di-alcohol cyntaf yn y byd a sefydlwyd gan fenyw a chan unigolyn LHDTCRhA+, mae Drop Bear Beer yn herio ystrydebau'n gyson ac yn ceisio amrywiaethu'r diwydiant bragu sydd, yn draddodiadol, yn ddiwydiant sydd wedi'i ddominyddu gan ddynion. Mae ymagwedd arloesol Joelle yn estyn y tu hwnt i gynrychiolaeth, gyda'r cwmni hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar foeseg a chynaliadwyedd.

Drop Bear Beer yw'r bragdy B-Corp ardystiedig cyntaf yng Nghymru, a'r bragdy di-alcohol carbon-niwtral cyntaf yn y byd. Mae'r anrhydeddau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Joelle i greu menter sy'n gymdeithasol gyfrifol ac sy'n adlewyrchu'r galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gynnyrch cynaliadwy a moesegol.

Yn 2022, derbyniodd Joelle a Drop Bear Beer gydnabyddiaeth sylweddol yng Ngwobrau Sefydlu Busnes Cymru, gan ennill gwobrau megis Busnes Newydd y Flwyddyn yng Nghymru, Busnes Newydd y Flwyddyn ym Mae Abertawe, a Busnes Newydd Gwyrdd y Flwyddyn. Yn ogystal, cafodd Joelle ei henwi fel Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn, a oedd yn adlewyrchu ei harweinyddiaeth a'i gweledigaeth eithriadol.

Mae ymrwymiad y cwmni i gynwysoldeb yn amlwg ymysg ei weithlu, gyda hanner y cyflogeion yn gwiar. Hefyd, mae gan y cwmni bartneriaeth â Galop, sy'n ymrwymedig i gefnogi pobl LHDTC+ sydd wedi bod yn ddioddefwyr camdriniaeth a thrais. Mae'r mentrau hyn yn tanlinellu cenhadaeth Joelle i greu effaith ystyrlon y tu hwnt i'r busnes.

Daw llwyddiant Drop Bear Beer ar adeg o ddiddordeb cynyddol yn y symudiad 'sober-curious', yn enwedig ymhlith cenedlaethau iau sy'n ail-ddiffinio'r normau ynghylch alcohol. Mae taith entrepreneuraidd Joelle hefyd wedi’i hysbrydoli i fanteisio ar welededd, gan gydnabod pwysigrwydd rhannu ei stori er mwyn annog a grymuso eraill a hyrwyddo amrywiaeth mewn arweinyddiaeth.

Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, dywedodd Joelle Drummond: "Ar ôl y fraint o raddio o Brifysgol Abertawe ddwywaith, mae derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn anrhydedd llwyr. Rwy'n hynod gyffrous am y posibilrwydd o barhau i gydweithio â'r Brifysgol i ddyfnhau'r cyswllt rhwng addysg, entrepreneuriaeth a'r diwydiant arobryn, arloesol."

Rhannu'r stori