Llun gyda thyrbinau gwynt, paneli solar a pheilonau trydan.

Mae Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe'n un o bartneriaid  prosiect newydd o’r enw SAFEPOWER, sydd â'r nod o drawsnewid systemau ynni drwy greu trawsnewidyddion Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Canolig (MVDC), a ddyluniwyd i fod yn fach, yn ecogyfeillgar, yn ddiogel ac yn gystadleuol i greu dyfodol glanach sy'n fwy ynni-effeithlon.

Mae trawsnewidyddion MVDC yn rhan hanfodol o systemau ynni adnewyddadwy megis ffermydd gwynt a solar ar y môr, gwefru cyflym cerbydau trydan a chanolfannau data ar gyfer cyfrifiadura perfformiad uchel. 

Mae prosiect SAFEPOWER yn defnyddio'r technolegau trosi digidol a phŵer diweddaraf, i wneud trawsnewidyddion MVDC yn fwy effeithlon, yn ddibynadwy ac yn bwerus, wrth hefyd leihau eu hôl troed amgylcheddol ac economaidd.

Bydd y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol yn defnyddio'i llinell beilot gweithgynhyrchu sglodion arloesol i arddangos sglodion pŵer y genhedlaeth nesaf sy’n seiliedig ar ddeunyddiau bwlch band eang megis silicon carbid a galiwm ocsid. Y syniad yw arddangos y dechnoleg hon ar raddfa fel y bydd y prosesau a ddatblygir yn CISM yn gallu cael eu trosglwyddo'n hawdd i gyfleuster gweithgynhyrchu graddfa fawr.

Mae datblygiadau arloesol y prosiect SAFEPOWER yn cynnwys

  • Deunyddiau Uwch: Mae'r prosiect yn defnyddio deunyddiau arbennig i greu dyfeisiau pŵer sy'n effeithlon ac yn fforddiadwy.
  • Cydrannau pŵer y genhedlaeth nesaf: Mae SAFEPOWER yn creu rhannau effeithlon megis switshys pŵer, deuodau, a thorwyr cylchedau i gefnogi systemau ynni modern.
  • Atebion cynaliadwy: Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddyluniadau ecogyfeillgar a chost effeithiol i leihau effaith amgylcheddol systemau pŵer.
  • Dibynadwyedd gwell: Drwy ddefnyddio technegau monitro uwch a deallusrwydd artiffisial, mae SAFEPOWER yn sicrhau bod systemau ynni'n ddibynadwy, yn gallu rhagfynegi materion ac yn para'n hirach.
  •  

Bydd SAFEPOWER yn helpu i gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, yn enwedig paneli solar, gan wneud systemau ynni'n fwy dibynadwy ac yn fforddiadwy. Bydd hyn hefyd yn helpu symudiad y DU ac Ewrop tuag at economi sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ac yn gynaliadwy.

Meddai Xavier Perpinyà, arweinydd gwyddonol SAFEPOWER:

"Mae SAFEPOWER yn gam allweddol tuag at greu dyfodol lle mae systemau ynni'n fwy effeithlon ond hefyd yn cyd-fynd yn well ag anghenion cymdeithasol am gynaliadwyedd a gwydnwch. Mae ein prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad y DU ac Ewrop i arwain datblygiad technolegau gwyrdd."

Nod SAFEPOWER yw gwneud trawsnewidyddion MVDC yr opsiwn gorau ar gyfer atebion ynni gwyrdd, diogel a chystadleuol. Bydd hyn yn helpu’r DU ac Ewrop i ddod yn fwy annibynnol mewn technoleg ynni a chryfhau ei harweinyddiaeth mewn technolegau digidol ac uwch.

Meddai'r Athro Mike Jennings:

"Mae'r symudiad at gymdeithas sero net yn golygu rheoli pŵer effeithlon o ynni adnewyddadwy o ble caiff ei greu i'r cartref. Mae'r lled-ddargludyddion effeithlon sy'n cael eu datblygu yn CISM yn galluogi rheoli pŵer y systemau ynni adnewyddadwy hyn. Mae'r un dechnoleg yn sail i gerbydau trydan, gyriadau diwydiannol, sy'n effeithio ar rannau ehangach o'r gymdeithas megis mwy o awyrennau trydan a chanolfannau data ynni-effeithlon.

Ariennir y prosiect €4.3m gan Horizon Ewrop ac mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 10 partner o'r DU, Sbaen, Ffrainc, yr Eidal a Latvia.

Rhannu'r stori