Menyw yn gwenu yn dal llyfr i fyny

Mae pŵer trawsnewidiol addysg a'r rôl gadarnhaol a oedd gan Brifysgol Abertawe ym mywyd un fenyw ymysg y themâu a ymddengys mewn llyfr newydd sydd â’r nod o ysbrydoli eraill wrth iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â chyfnod canol oed.

Graddiodd Emma Tamplin, entrepreneur llesiant, gyda BSc mewn Rheoli Busnes yn 2022, er y bu farw ei merch o lewcemia pan oedd hi'n astudio. Ers hynny, mae hi wedi lansio ei busnes llwyddiannus diweddaraf, ond mae hefyd wedi cwblhau gradd meistr mewn seicoleg.

Bellach mae wedi adrodd ei stori yn The Journey Home ac mae'n gobeithio y gall ei stori chwarae rhan wrth helpu menywod eraill i gyflawni eu potensial.

Meddai Emma: "Mae'r llyfr hwn ar gyfer menywod sydd wedi treulio eu bywydau'n helpu pawb arall, ond wrth gyrraedd eu pedwar degau neu eu pum degau, maen nhw'n sylwi eu bod nhw wedi colli golwg ar bwy ydyn nhw ar hyd y ffordd".

Mae profiad personol Emma o ddelio â galar ac iselder a'i thaith yn ôl i fywyd ystyrlon wrth wraidd y llyfr hwn - a dywedodd fod ei hastudiaethau yn rhan hollbwysig o'r daith bersonol honno.

"Fe wnaeth Prifysgol Abertawe achub fy mywyd, yn llythrennol, ar ôl i Megan farw pan oedd hi'n 15 oed. Roedd adegau pan nad oeddwn i'n gwybod a allwn i barhau. Ond fy ngradd oedd fy llinell fywyd - roedd yn rheswm i mi godi o'r gwely yn y bore, rhoddodd strwythur i mi pan roedd fy myd wedi'i chwalu, a rhoddodd obaith i mi pan oeddwn yn ddiobaith.

"Mae'r llyfr yn rhannu fy neges i fenywod canol oed sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl, galar, neu'n teimlo ar goll: gallwch oroesi'r cyfnodau mwyaf tywyll a dod o hyd i'r goleuni eto. Rydw i'n dystiolaeth o hynny."

Fel rhan o'u hastudiaethau gradd meistr, archwiliodd Emma y cysylltiad rhwng syndrom y ffugiwr ac entrepreneuriaeth benywaidd, a dyma oedd y catalydd ar gyfer y llyfr hwn.

Meddai Emma: "Rwy'n credu bod gan bobl hŷn, yn enwedig menywod, gymaint o botensial, ond yn aml maen nhw'n teimlo'n anweledig a gallant golli eu hunaniaeth.  Unwaith y maen nhw'n cyrraedd eu pedwar degau, maen nhw'n credu os nad ydynt wedi cyflawni'r hyn roeddent am ei gyflawni, ni fyddant byth yn llwyddo i'w gyflawni. Ond dydy hi byth yn rhy hwyr.

Dechreuodd Emma, sydd o Gastell-nedd, ei busnes cyntaf yn ei hugeiniau cynnar, ac mae hi bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi menywod eraill fel rhan o'i menter llesiant.

"Rwy'n cynnig ymagwedd fwy cyfannol at hyfforddiant bywyd, er mwyn ysbrydoli menywod i gyflawni eu potensial yn hytrach na dweud wrthynt beth i'w wneud. Rydw i eisiau sicrhau bod ganddynt yr offer sylfaenol i'w helpu i lwyddo. Nid yw llesiant yn ymwneud â gwario arian, gwneud newidiadau syml sy'n bwysig - gall pethau megis cerdded neu ymwybgddiaeth ofalgar wneud gwahaniaeth enfawr i sut rydych chi'n teimlo."

Mae'r rhain i gyd yn strategaethau a oedd wedi helpu Emma, yn enwedig ar ôl colli ei merch.

"Newidiodd bopeth ar ôl i Megan farw, ac mae rhai o'r newidiadau hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn. Fe ddatblygais i'n berson gwell. Mae ei gwaddol wedi fy ngwthio i gyflawni mwy."

Roedd gadael yr ysgol gyda dim ond ychydig gymwysterau wedi effeithio ar hyder Emma. Dim ond pan ddechreuodd hi ei busnes ei hun y gwnaeth hi ddechrau adennill ei hyder. Arweiniodd gwblhau cymhwyster arweinyddiaeth a rheoli ati'n cofrestru yn y Brifysgol pan oedd hi'n 37 oed.

"Nid wyf wedi edrych yn ôl ers dechrau yn Abertawe, mae wedi newid fy mywyd. Er mai fi oedd y person hynaf ar fy nghwrs, roeddwn i'n dwlu ar fy nghwrs o'r cychwyn cyntaf. Er bod y cyfnod clo yn heriol iawn, roedd parhau i astudio mewn amodau anodd wedi fy helpu i ddatblygu cryfder a datblygu fy nghymeriad."

"Yn y Brifysgol, dysgais sut i ddadlau, sut i gwestiynu, a sut i ymchwilio. Rydych chi'n dysgu ffordd wahanol o feddwl ac rydych chi'n agored i brosesau meddwl pobl eraill. Mae'r rhain i gyd yn sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y gweithle."

Ychwanegodd Emma: "Rydw i eisiau annog mwy o bobl i ystyried mynd i'r Brifysgol fel myfyrwyr aeddfed. Gwnaeth fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw.

"Mae'r system addysg sydd gennym yma yng Nghymru yn rhodd werthfawr ac nid yw oed yn rhwystr. Felly beth am fynd amdani, herio eich hun a dilyn eich breuddwydion?"

Gallwch brynu llyfr Emma yma

Dysgwch fwy am Yr Ysgol Reolaeth

 

Rhannu'r stori