Llun o Faenor Sant Owen, Jersey. Credyd: Archif Lluniau'r Jersey Evening Post.

Llun o Faenor Sant Owen, Jersey. Credyd: Archif Lluniau'r Jersey Evening Post.

Dyfarnwyd grant ymchwil o £215,843 i Brifysgol Abertawe i arwain astudiaeth newydd o system ffiwdal hanesyddol Jersey. Bydd yn archwilio sut mae traddodiadau tir a chyfraith a sefydlwyd ganrifoedd yn ôl wedi llunio hunaniaeth yr ynys.

Yn Jersey, mae perchnogaeth tir yn seiliedig ar hierarchaeth y Goron, perchnogion tir a thenantiaid. Roedd arglwyddi a oedd yn cael eu hadnabod fel seigneurs yn dal lleiniau o dir o'r enw fiefs. Er y diddymwyd eu hawliau ariannol ym 1966, mae llawer o ddefodau, teitlau a thraddodiadau cyfreithiol yn parhau - mae eiddo maenor yn nodwedd gyfarwydd o dirwedd Jersey o hyd ac mae seigneurs yn dal i fynychu gwrandawiad blynyddol y Llys Brenhinol, Assise d'Heritage.

Bydd yr astudiaeth dwy flynedd o hyd, The Fiefs and Seigneurs of Jersey: History and Significance, yn cael ei harwain gan yr Athro Daniel Power o Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron Prifysgol Abertawe. Bydd yn olrhain datblygiad y sefydliadau hyn o'r 11eg ganrif - pan oedd Jersey yn rhan o ddugiaeth Normandi - hyd at Ryfel Cartref Lloegr yng nghanol yr 17eg ganrif.

Caiff y canfyddiadau eu rhannu mewn seminar cyhoeddus a gynhelir yn Jersey yn 2027 a chaiff yr astudiaeth lawn ei chyhoeddi wedyn.

Meddai'r Athro Power: "Mae hanes cyfraith a thirddaliad yn Jersey ac Ynysoedd y Sianel eraill yn cynnig cysylltiad hynod ddiddorol rhwng y gorffennol canoloesol a modern cynnar, a heddiw.

"Roedd yr ynysoedd yn Normanaidd o ran eu diwylliant ond wedi'u gwahanu o brif dir Normandi yn wleidyddol o 1204, gan alluogi i'w sefydliadau a'u diwylliant cyfreithiol ddatblygu mewn ffordd unigryw. Mae'r deunydd archifol yn gyfoethog a'r potensial am ddarganfod gwybodaeth newydd yn anferth."

Mae'r ymchwil yn rhan o brosiect ehangach gwerth £250,000 a ariennir gan roddion preifat ac a gefnogir gan Jersey Heritage, y Société Jersiaise, a Llywodraeth Jersey. Bydd yn cyfrannu at Millenium 2027, European Year of the Normans, rhaglen goffa sy'n nodi 1,000 o flynyddoedd ers genedigaeth Gwilym Goncwerwr.

Meddai John de Veulle, cyn-Gadeirydd Jersey Heritage: "Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n cefnogi ac yn cyfrannu at y prosiect ymchwil mawr hwn ar agwedd bwysig ar hanes Jersey.

"Sefydlwyd system ffiwdal yr Ynys ganrifoedd yn ôl ac mae'n dal i gael effaith ar Jersey heddiw. Nid yw wedi cael ei hastudio'n drylwyr o'r blaen, a bydd hi mor ddiddorol gweld beth mae'r ymchwil newydd yn ei ddarganfod."

Bydd ymchwilydd ôl-ddoethurol yn cael ei benodi i fod yn rhan o dîm yr Athro Power o fis Ebrill 2026 tan fis Mawrth 2028. Gwahoddir ceisiadau nawr a'r dyddiad cau yw 25 Tachwedd 2025.

Mae'r astudiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ymchwil hanesyddol a chydweithredu rhyngwladol - gan gynnig cyfle prin i archwilio sut mae sefydliadau canoloesol yn dal i ddylanwadu ar fywyd heddiw.

Darllenwch ragor am yr Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron.

Rhannu'r stori