Menyw yn edrych ar dudalen siopa ar liniadur

Mae Dydd Gwener Du yma ac mae’r Nadolig ar ddod - sy'n golygu bod silffoedd siopau a gwefannau'n llawn eitemau atyniadol, hysbysebion teledu a gostyngiadau i'n hannog i wario arian i sicrhau ein bod ni'n cael tymor yr ŵyl perffaith. 

Ond beth sy'n digwydd os nad oes gennych chi ddigon o arian i brynu'r eitemau hyn? Yn hytrach na pheidio â phrynu pethau, mae llawer o siopwyr yn troi at gynlluniau prynu nawr a thalu'n ddiweddarach (BNPL) - gan dalu swm bach ac ymrwymo i dalu'r gweddill mewn rhandaliadau.

Wrth i fwy ohonom ddewis siopa ar-lein, mae prynu pethau drwy wasgu botwm yn haws nag erioed, ac mae gennym ni’r opsiwn i dalu'n llawn neu drwy wasanaethau talu gohiriedig, megis Klarna.

Bellach mae Prifysgol Abertawe yn rhan o brosiect newydd sy’n ceisio canfod sut mae pobl yn ymdopi â'u taliadau siopa a faint mwy y gellir ei wneud i helpu'r rhai hynny sy'n wynebu'r risg mwyaf i osgoi bod mewn dyled. 

Meddai Dr Anita Zhao, o'r Ysgol Reolaeth: “Bydd y prosiect hwn yn cynnwys creu pecyn cymorth i helpu pobl sy'n fregus yn ariannol neu sy'n dibynnu'n ormodol ar ddefnyddio cynlluniau BNPL yn ne Cymru a'r tu hwnt. Nid ydym yn gwybod eto pa ffurf y bydd yr offer hyn yn ei mabwysiadu, ond ein nod yw meithrin dealltwriaeth well o sut rydym yn gallu gweithio gydag ymgynghorwyr dyled a'r rhai hynny sydd mewn dyled i ddarparu'r math iawn o gymorth.”

Gyda chyllid gan y Brifysgol, mae Dr Zhao a'i chydweithwyr Dr Philippa Ward a Dr Ruffin Relja o Brifysgol Swydd Gaerloyw yn galw ar bobl sydd mewn dyled ac ymgynghorwyr dyled ariannol i helpu gyda'r prosiect.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae eu hymchwil wedi datgelu mai'r rhai hynny o'r genhedlaeth filflwydd a chenhedlaeth Z sy'n ffafrio'r opsiwn BNPL fwyaf.  Maent yn ifanc (ar gyfartaledd yn 32 mlwydd oed), yn fenywod yn bennaf, ac mae hanner ohonynt yn ennill llai na £30,000 y flwyddyn.

Dywedodd Dr Zhao: “Mae llawer o brynwyr yn teimlo eu bod dim ond yn defnyddio eu harian eu hunain o'r dyfodol i brynu pethau, heb feddwl amdano [BNPL] fel math o gredyd. 

“Y broblem yw nad yw BNPL yn cael ei reoleiddio yn y DU ar hyn o bryd. Yn wahanol i gerdyn debyd lle caiff yr unigolyn sy'n cael benthyg yr arian ddatganiad misol ar gyfer ei holl wariant, defnyddir BNPL ar gyfer trafodiadau unigol felly gallai prynwr fod wedi prynu nifer o nwyddau gwahanol y mae angen talu symiau gwahanol amdanynt ar adegau gwahanol. 

“Gall hyn greu sefyllfa anhrefnus iawn. Oni bai eich bod yn ymwybodol yn ariannol, mae'n hawdd colli cofnod o faint rydych chi wedi'i wario. 

“Tra bod rhai defnyddwyr yn gadarnhaol iawn am y rhyddid y mae gwasanaethau technoleg ariannol megis Klarna yn ei roi, mae eraill efallai nad ydynt mor graff o safbwynt ariannol, yn cael anawsterau. Mae gwario ar-lein yn gallu codi hwyliau pobl ar unwaith, ond mae'r poen a ddaw yn sgîl dyled yn para am gyfnod llawer hwy. Mae'r rhai hynny nad oes ganddynt lawer o hunanreolaeth yn fwy tebygol o'u canfod eu hunain mewn cylch poenus lle maent yn agored i niwed.”  

Mae Dr Zhao eisioes wedi cysylltu â'r Money Advisory Liaison Group (MALG). Mae'r corff hwn yn dod â sefydliadau ynghyd sy'n gweithio i wella bywydau pobl â phroblemau dyled ac mae'n awyddus i glywed mwy gan y rhai hynny sy'n ymwneud â chymorth dyled.

“Rydyn ni'n cynnal arolwg ac eisiau ymgysylltu â'r rhai hynny sydd wedi cael problemau o ganlyniad i'w dyledion BNPL yn ogystal â'r ymgynghorwyr ariannol hynny sy'n ceisio eu helpu nhw. Rydyn ni eisiau darganfod yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynnig cymorth gwell. Mae de Cymru yn eithaf difreintiedig o safbwynt ariannol, felly gallai adnoddau ataliol fod yn arbennig o ddefnyddiol i lawer o bobl yma.”

Mae'r ymchwilwyr hefyd wedi bod yn cyfrannu at ddrafftio ymateb i gynlluniau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gyflwyno rheolaethau llymach i fenthycwyr yn 2026.

Ychwanegodd: “Mae ein rôl fel ymchwilwyr marchnata'n ein galluogi ni i gynnig gwybodaeth werthfawr am effeithiau ehangach newidiadau rheoleiddiol arfaethedig ar gyfer cwsmeriaid a marchnadoedd.  Ar hyn o bryd nid yw'r rhan hon o'r farchnad yn cael ei rheoleiddio, felly gallai'r rheolau hyn gynnig mwy o ddiogelwch i siopwyr.”

Gallwch chi helpu gydag ymchwil y tîm drwy gymryd rhan yn yr arolwg.

Dysgwch fwy am yr Ysgol Reolaeth

 

Rhannu'r stori