Darlun meddygol o'r bacteria Clostridioides difficile, a elwid gynt yn Clostridiwm difficile. Darlunydd Meddygol Jennifer Oosthuizen. Cydnabyddiaeth: CDC ar Unsplash.

Cydnabyddiaeth: CDC ar Unsplash.

Wrth i fygythiad ymwrthedd i wrthfiotigau gynyddu, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi arwain y gwaith o ddatblygu technoleg newydd sy'n gallu lladd rhai o'r bacteria mwyaf peryglus yn y byd meddygaeth - gydag effeithiolrwydd o dros 99.9% yn erbyn Pseudomonas aeruginosa (P. aeruginosa).

Mae'r datblygiad newydd yn canolbwyntio ar nanogel hetero-amlfalent: gronyn hyblyg sy'n cael ei greu drwy drawsgysylltu polymerau ac ychwanegu gweddillion siwgr (galactos a ffwcos) ochr yn ochr â pheptidau gwrthficrobaidd.

Mae'r siwgrau hyn yn rhwymo i broteinau penodol ar yr arwyneb bacteriol, gan lywio'r nanogel yn benodol i'w darged. Unwaith y maent yno, mae'r peptidau'n amharu ar y bilen facteriol, gan arwain at farwolaeth facteriol gyflym a detholus - heb niweidio'r celloedd iach sydd o'u cwmpas.

Roedd profion uwch yn defnyddio sytometreg llif, microsgopeg electronau sganio a microsgopeg gydffocal wedi datgelu bod:

  • Dros 99.9% o Aeruginosa rhydd wedi cael eu lladd.
  • Dros 99.9% o aeruginosa - wedi'i orchuddio â bioffilm - yr haen wydn, amddiffynnol y mae bacteria yn ei ffurfio - yn anweithredol o fewn 12 awr.

Dangosodd y nanogel hefyd effeithiau gwrthfacteriol yn erbyn bygythiadau mawr eraill, gan gynnwys Escherichia coli (E. coli) a  staffylococcus aureus ymwrthol i methisilin  (MRSA).

Mae'r dechnoleg hon yn cynnig strategaeth obeithiol ac amlbwrpas i fynd i'r afael â heintiau sy'n ymwneud â bioffilm ac sy'n ymwrthol i amrywiaeth o gyffuriau – dwy o’r prif heriau parhaus ym myd meddyginiaeth fodern

Meddai'r prif awdur cyfatebol a'r goruchwyliwr ymchwil, Dr Sumati Bhatia, Uwch-ddarlithydd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae arwain yr ymchwil hon, ochr yn ochr â'n partneriaid rhyngwladol, wedi bod yn hynod wobrwyol. Mae'n agor cyfeiriad newydd ar gyfer defnyddio systemau polymer sy'n seiliedig ar glwcan fel strategaeth therapiwtig yn erbyn bacteria pathogenaidd a gall osod y sylfaen ar gyfer dosbarth newydd o driniaethau gwrthfacteriol yn erbyn heintiau bacterol ymledol.

Mae'r canfyddiad hwn o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Dr Bhatia ac academyddion o Freie Universität Berlin, gan gyfuno arbenigedd mewn glycocemeg, gwyddorau polymer a nanodechnoleg.

Diolch i gyllid gan Sefydliad Gwyddoniaeth yr Almaen, mae Dr Bhatia yn gallu parhau â'r gwaith hwn ym Mhrifysgol Abertawe.

Darllenwch yr astudiaeth lawn.

Dysgwch fwy am yr Adran Gemeg.

Rhannu'r stori