Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gydag INEOS Grenadiers i ddatblygu atebion data ac AI sy'n torri tir newydd a allai chwyldroi sut caiff darpar ddawn ei hadnabod ym maes beicio proffesiynol.
Arweinir y cydweithrediad gan academyddion o Ganolfan Ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth y Brifysgol (A-STEM), sydd eisoes yn gweithio'n agos gyda sefydliadau chwaraeon blaenllaw gan gynnwys Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, y Scarlets, y Gweilch, Nofio Cymru, a Sefydliad Chwaraeon y DU.
Fel rhan o raglen sy'n parhau i dyfu o raddau PhD gydag ariannu cyfatebol, mae ymchwilwyr Abertawe— gan gynnwys yr Athrawon Liam Kilduff, Neil Bezodis, Laura Mason, a Dr Mark Waldron a Dr Rowan Brown—wedi cynnwys myfyrwyr yn uniongyrchol yn y sefydliadau hyn a llawer mwy i fynd i'r afael â heriau perfformiad yn y byd go iawn gan ddefnyddio dadansoddeg data uwch.
Erbyn hyn, mae'r tîm yn ehangu ei gyrhaeddiad drwy bartneriaeth newydd ag INEOS Grenadiers, tîm beicio Prydeinig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei lwyddiannau Grand Tour niferus a'i ymagwedd wyddonol at dechnoleg a pherfformiad.
Bydd y prosiect cyntaf ar y cyd, Towards the development of digital twins for efficient talent identification in professional cycling, yn cynnwys myfyriwr PhD dynodedig a fydd yn archwilio sut mae systemau sy’n cael eu llywio gan ddata yn gallu helpu timau i nodi darpar ddawn a dawn sydd wedi’i hanwybyddu'n gynt ac yn fwy effeithiol, er gwaethaf natur gymhleth ac ansicr datblygiad dawn.
Meddai Liam Kilduff, Athro Gwyddor Perfformiad, Pennaeth Canolfan Ymchwil A-STEM, a Chyd-gadeirydd Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru: “Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymfalchïo mewn creu partneriaethau cryf ag arweinwyr diwydiant, gan sicrhau budd i'r holl bartïon. Mae rhai cydweithrediadau wedi para mwy na 23 o flynyddoedd, gan arwain at effaith o bwys mewn chwaraeon elît a phroffesiynol. Rydym wrth ein boddau’n cael y cyfle i weithio gydag INEOS Grenadiers ac edrychwn ymlaen at gydweithio â Scott a'i dîm ar y prosiect arloesol hwn.”
Ychwanegodd Dr Scott Drawer, Cyfarwyddwr Perfformiad INEOS Grenadiers: “Meysydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial sy’n datblygu yw’r ffiniau nesaf ar gyfer y gamp. Mae'r prosiectau hyn yn rhan o bortffolio mawr o waith gyda byd academaidd a diwydiant i gyflymu ein dealltwriaeth a'i chymhwyso i'n camp. Mae fy mhrofiad personol o weithio gydag Abertawe bob amser wedi bod yn gadarnhaol ac wedi cael effaith uniongyrchol ar y ffordd rydym yn gweithio.”
Mae beicio yn un o'r chwaraeon mwyaf datblygedig o ran technoleg, gan gynnig symiau helaeth o ddata perfformiad. Serch hynny, mae swm ac anghysondeb y data hwn yn gwneud offer awtomataidd yn hanfodol ar gyfer adnabod beicwyr addawol.
Bydd y prosiect newydd hwn yn integreiddio metrigau perfformiad mewnol INEOS Grenadiers â data rasys sydd ar gael yn gyhoeddus i fonitro datblygiad beicwyr iau ar draws gwledydd a ddewiswyd. Drwy ddylunio systemau awtomataidd i amlygu perfformiadau arbennig, nod y tîm yw sefydlu llinyn digidol sy'n cynnig dealltwriaeth well o hanes hyfforddi athletwyr a llwybrau cynnydd.
Gyda beicio proffesiynol yn dod yn fwyfwy cystadleuol - a chyda mwy o wledydd yn cael eu cynrychioli ar lefel elît - mae timau dan fwy o bwysau i adnabod doniau'n gynnar. Nod y cydweithrediad hwn yw hwyluso a chryfhau'r broses honno.
Mae'r fenter hefyd yn cyd-fynd â nodau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd (NISH), ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai’r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH: “Mae'r bartneriaeth hon yn cyd-fynd â chenhadaeth NISH, sy'n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a phartneriaid ym myd diwydiant ynghyd i arwain arloesi mewn perfformiad chwaraeon ac iechyd. Drwy NISH, nod y Brifysgol yw trosi rhagoriaeth ymchwil yn atebion ymarferol sydd o fudd i athletwyr a chymunedau ehangach.”