Close up of Europe on a map

Llun: Shutterstock

Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wella addysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Bydd staff o Brifysgol Abertawe'n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Powys a Cheredigion i gefnogi cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o hyrwyddo amlieithrwydd ac annog mwy o bobl ifanc i astudio ieithoedd rhyngwladol ar bob lefel.

Bydd y rhaglen hon, a gyflwynir gan arbenigwyr iaith Abertawe, yn:

  • Helpu athrawon cynradd ac uwchradd i deimlo'n fwy hyderus wrth ddylunio a chyflwyno dysgu amlieithog yn y dosbarth.
  • Darparu hyfforddiant, mentora a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon a staff mewn ysgolion.
  • Adeiladu rhwydweithiau ar draws Cymru, fel y gall ysgolion rannu adnoddau, syniadau ac arferion da.
  • Annog cydweithredu rhwng ysgolion, gan gynnwys prosiectau partneriaeth.
  • Cefnogi datblygiad hwb adnoddau canolog ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

Mae dysgu ieithoedd yn cryfhau dealltwriaeth ddiwylliannol a chydlyniant cymdeithasol, a dengys ymchwil ei fod yn gwella hyblygrwydd gwybyddol, cof a sgiliau datrys problemau. Mae hefyd yn chwarae rôl hanfodol mewn twf busnesau, masnach ryngwladol, diplomyddiaeth, amddiffyn a mynediad teg at wasanaethau. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU wedi nodi bod diffyg ieithyddol y DU yn cyfrannu at golledion economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol sylweddol - sy'n amlygu pwysigrwydd cryfhau addysg ieithyddol ledled y DU.

Dywedodd Dr Geraldine Lublin, Athro Cysylltiol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe: Rydym wrth ein boddau'n croesawu'r cyllid hwn, oherwydd ei fod yn gyfle ardderchog i gefnogi ieithoedd yn ein dosbarthiadau. Er mwyn i'r Cwricwlwm i Gymru lwyddo i gyflawni ei uchelgais arbennig, mae angen cymorth ac amser ar ein hathrawon. O roi hwb i hunanhyder ac empathi diwylliannol i agor drysau i yrfaoedd byd-eang, mae sicrhau bod ein disgyblion yn gallu cyfathrebu mewn ieithoedd amrywiol yn rhoi mantais iddynt mewn byd sy'n newid."

Dysgwch fwy am Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Abertawe

Rhannu'r stori