Moleciwl atom. Credyd: Sergey Nivens | Shutterstock.

Credyd: Sergey Nivens | Shutterstock.

Bydd gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol mewn Dyfarniad Doethurol Ffocal mewn Sgiliau Niwclear gwerth £65.6 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), gan helpu i hyfforddi arbenigwyr sy'n hanfodol i ynni glân, diogelwch cenedlaethol a thechnolegau niwclear uwch y dyfodol.

Fel rhan o DRIVERS (Developing Researchers with an Interdisciplinary Vision for Engineering Reactor Systems), bydd arbenigwyr o'r Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol yn hyfforddi mwy nag 80 o ymchwilwyr PhD dros y saith mlynedd nesaf mewn ffiseg adweithyddion, hydroleg thermol a gwydnwch adeileddol gydol oes.

Dan arweiniad consortiwm o brifysgolion blaenllaw - Imperial, Bangor, Bryste, Manceinion ac Abertawe - bydd y ganolfan hyfforddiant doethurol newydd yn sicrhau bod gan beirianwyr a gwyddonwyr niwclear y dyfodol y sgiliau technegol, rhyngddisgyblaethol a digidol uwch sy'n angenrheidiol i gefnogi rhaglenni niwclear sifil ac amddiffyn y DU. Drwy'r ymagwedd hon, bydd y ganolfan yn gweithio i sbarduno arloesi ym maes dylunio systemau niwclear, gwella diogelwch a pherfformiad a chefnogi datblygiad costeffeithiol technolegau niwclear y dyfodol.

O orsafoedd pŵer niwclear ar raddfa fawr i adweithyddion bach modiwlaidd ac uwch, a'i fflyd o longau tanfor wedi'u pweru gan ynni niwclear, mae uchelgeisiau'r DU o ran diogelwch ynni, sero net ac amddiffyniad cenedlaethol i gyd yn dibynnu ar weithlu niwclear sydd â sgiliau o'r radd flaenaf. Bydd DRIVERS yn diwallu'r angen hwn drwy hyfforddi ymchwilwyr doethurol ym maes dylunio ac asesu integredig systemau adweithydd niwclear.

Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu arweinyddiaeth, hyfedredd digidol, sgiliau cyfathrebu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan y DU y gweithlu medrus sy'n angenrheidiol i gynnal rhaglenni niwclear sy'n ddiogel, yn arloesol ac yn gystadleuol am ddegawdau i ddod.

Meddai'r Athro Robert Lancaster, Athro Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe a Chyd-gyfarwyddwr DRIVERS: "Rydyn ni wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe'n rhan o DRIVERS, buddsoddiad mawr mewn datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddoniau niwclear. Drwy'r rhaglen hon, byddwn ni'n helpu i hyfforddi ymchwilwyr doethurol gan ddatblygu'r sgiliau technegol, rhyngddisgyblaethol ac arweinyddiaeth sydd eu hangen i gefnogi galluoedd niwclear y DU yn y dyfodol, at ddibenion ynni ac amddiffyn.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, yr Athro Robin Grimes: "Mae DRIVERS yn fuddsoddiad strategol cenedlaethol mawr yng ngallu niwclear y DU a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau hirdymor y wlad o ran ynni niwclear at ddibenion sifil ac amddiffyn.

Rhagor o wybodaeth am raglen DRIVERS.

Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol.

Rhannu'r stori