Llun: Shutterstock
Mae ymchwil newydd, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil iechyd a Gofal, yn dangos bod rhaglenni atal trais yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ysbytai yn effeithiol wrth leihau niwed, costau i'r GIG a gwella gofal brys.
Ymchwiliodd cyfres o astudiaethau ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Efrog a Phrifysgol Abertawe i effeithiolrwydd Rhaglenni Ymyrryd â Thrais mewn Ysbytai yng Nghymru – a elwir yn Dimau Atal Trais.
Nod y Timau Atal Trais yw torri cylchoedd niwed ac atal erledigaeth a throseddu yn y dyfodol. Yn y timau mae nyrsys arbenigol ac eiriolwyr sy’n rhan uniongyrchol o’r ADAB. Maen nhw’n canfod y cleifion sydd yno oherwydd trais, gan ddod o hyd i’r amgylchiadau personol a’r ffactorau risg mewn ffordd sensitif, darparu cefnogaeth ar unwaith a chyfeirio cleifion at ofal iechyd a chymdeithasol.
Cyflwynwyd Timau Atal Trais gyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn 2019, ac yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn 2023, gyda chymorth arian a gafodd ei ddarparu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Y corff ymchwil newydd hwn yw'r dystiolaeth gyntaf y gall dull iechyd cyhoeddus pwrpasol sy'n seiliedig ar ADAB leihau niwed sy’n digwydd mwy nag unwaith yn ystyrlon, gan leddfu'r baich ar wasanaethau brys sydd dan straen – a bydd goblygiadau i’r DU drwyddi draw.
Dadansoddodd yr ymchwilwyr ddata gan Dimau Atal Trais yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Treforys dros gyfnod o ddegawd er mwyn gwerthuso eu heffaith a'u cost-effeithiolrwydd.
Y prif ganfyddiadau:
- O safbwynt y system iechyd a safbwynt cymdeithasol, roedd y Timau Atal Trais yn gost-effeithiol ac yn arbed costau, yn bennaf oherwydd gostyngiadau yn nifer y cleifion sy'n mynd i ADAB neu’n cael eu derbyn i'r ysbyty, ac ymweliadau â meddyg teulu ar ôl hynny. Y tebygolrwydd bod Timau Atal Trais yn gost-effeithiol oedd 83–84%, a'r tebygolrwydd eu bod yn arbed costau oedd 84%;
- Ymhlith y cleifion y bu’r Timau Atal Trais yn ymwneud â nhw, gostyngodd nifer y sawl a ymwelodd ag ADAB yn ddirybudd a mwy nag unwaith 5% yn gyffredinol, a chafwyd gostyngiad o 14% yn nifer y menywod a’r merched a ddaeth i’r ADAB fwy nag unwaith. Ymhlith pobl ifanc 11–17 oed a 18–30 oed cafwyd gostyngiad o 12–14%;
- Cafwyd gostyngiadau yn nifer y cleifion a ddaeth i’r ADAB, nid yn unig yn achos anafiadau a oedd yn gysylltiedig â thrais ond hefyd bob rheswm dros fynd i ADAB yn y dyfodol. Awgryma hyn fod y Timau Atal Trais yn gallu dod o hyd i wendidau sylfaenol a rhoi cefnogaeth, gan arwain at welliant cyffredinol yn amgylchiadau’r cleifion;
- Canfu gwerthusiad ansoddol o 49 o ymarferwyr fod Timau Atal Trais yn cael eu hystyried yn eang yn hyrwyddwyr credadwy a dibynadwy yn y tîm clinigol; a,
- Disgrifiodd nyrsys eu bod yn cefnogi cleifion ag anghenion gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cyflyrau niwroddatblygiadol, camfanteisio, ymwneud â gangiau a dod i gysylltiad â chyfraith droseddol – mae angen cefnogaeth hirdymor a chydlynol ar lawer o’r rhain.
Ystyriodd yr ymchwilwyr fwy na 6.7 miliwn o ymweliadau ag adrannau brys ledled Cymru. Canfuon nhw fod yr ysbytai, ar ôl i Dimau Atal Trais gael eu cyflwyno yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn llawer gwell o ran sylwi a oedd ymweliad rhywun wedi'i achosi gan drais. Bydd rhai cleifion yn amharod weithiau i roi gwybod am eu profiadau o drais, fel yn achos y rheini sydd yng nghwmni'r troseddwr neu'r rheini sydd ynghlwm wrth weithgareddau anghyfreithlon.
Meddai'r Athro Sinead Brophy, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae'r gwaith hwn yn dangos, drwy wrando ar bobl a'u cydnabod fel unigolion, fod modd eu grymuso i gael yr help a'r cymorth cywir i amddiffyn eu hunain rhag trais a chamdriniaeth."
Mae'r ymchwil yn argymell y dylid blaenoriaethu Timau Atal Trais er mwyn eu cyflwyno'n genedlaethol, gan gynnig manteision hirdymor i gleifion, y GIG, a’r gymdeithas yn ehangach gan gynnwys atal trais, diogelu gwell, lleihau’r pwysau ar y GIG, a gwella iechyd a lles rhai o’r aelodau sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
Awgryma’r canfyddiadau hefyd bod Timau Atal Trais yn cyfrannu'n sylweddol at flaenoriaethau'r GIG a Llywodraeth y DU ar drais yn erbyn menywod a merched a defnyddwyr Adrannau Achosion Brys dwyster uchel.
Darllenwch y papurau ymchwil a ysgrifennwyd gan Athro Brophy: Effectiveness and Cost-Effectiveness of Emergency Department–Based Violence Intervention Programs in the United Kingdom: Protocol for a Quasi-Experimental Study ac A Quasi-Experimental Effectiveness Evaluation of a Nurse-led Hospital Violence Intervention Programme in the United Kingdom Using Linked Routine Health and Administrative Data.