Mae darpar nyrs o Brifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer anrhydedd genedlaethol fawreddog am ei hymroddiad i'w chleifion.
Mae Ellesse Mathias, sydd yn ei blwyddyn olaf, wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Anableddau Dysgu yng Ngwobrau Student Nursing Times eleni.
Bob blwyddyn, nod y digwyddiad yw dathlu rhagoriaeth myfyrwyr sy'n astudio nyrsio a bydwreigiaeth drwy gydnabod myfyrwyr, addysgwyr, prifysgolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau rhagorol sy'n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gefnogi a meithrin gweithwyr proffesiynol nyrsio'r dyfodol.
Dewisodd Ellesse, sy'n enedigol o Abertawe, astudio anableddau dysgu oherwydd ei fod yn cyfuno popeth y mae hi'n ei werthfawrogi mewn gofal iechyd: Meddai: “Rwy’n angerddol am sicrhau bod pob unigolyn, waeth beth fo’i allu neu ei gymhlethdod o ran angen, yn gallu byw bywyd ystyrlon a gwerthfawr.”
Esboniodd fod dod yn nyrs anableddau dysgu yn alwedigaeth bersonol a phroffesiynol: “Rwy’n mwynhau unigrywiaeth y rôl - gallu meithrin perthnasoedd go iawn, datrys problemau’n greadigol, a dod i adnabod y bobl rwy’n eu cefnogi’n iawn. Yn aml, rydych chi'n datblygu dealltwriaeth mor gryf fel y gallwch chi ragweld anghenion cyn iddyn nhw gael eu mynegi hyd yn oed, sy'n rhoi boddhad mawr."
Meddai Ellesse ei bod wedi synnu ac yn teimlo’n ostyngedig o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr. “Mae’n golygu llawer iawn bod eraill wedi cydnabod fy angerdd dros gefnogi pobl ag anableddau dysgu ac yn eirioli drostyn nhw ar draws addysg ac ymarfer.
“Rwy’n gobeithio y bydd y cyfle hwn yn caniatáu imi dynnu sylw ymhellach at rôl unigryw a hanfodol nyrsys anableddau dysgu - nid yn unig yn y gweithlu, ond ym mywydau’r unigolion a’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi.”
Ar hyn o bryd mae Ellesse yn paratoi i ddechrau ei swydd gyntaf yn Ysbyty Brenhinol Morganwg yn Llantrisant. Meddai: “Fy uchelgais yw dylanwadu ar ymarfer ar lefel glinigol a system ehangach, gan sicrhau bod mwy o ddealltwriaeth, eiriolaeth a chynhwysiant i unigolion ag anableddau dysgu.
“Yn y pen draw, rwy’n gobeithio parhau i lunio gwasanaethau, cefnogi myfyrwyr y dyfodol, a chryfhau rôl nyrsio anableddau dysgu ar draws pob maes gofal iechyd.”
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ddydd Gwener 24 Ebrill.
Dysgwch ragor am nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe