Lluniau pen a phaniced dwy fenyw

Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cafodd enwau’r rhai sydd wedi cael dyfarniadau cyllid personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eu cyhoeddi heddiw, a disgwylir i’r holl ddyfarniadau ddechrau ar 1 Ebrill 2026.

Trwy’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, mae cyllid dyfarniadau personol wedi’i ddyfarnu i ymchwilwyr o bob cwr o Gymru.  Bydd pob un o’r rhai sy’n cael dyfarniad personol newydd yn dod yn aelodau o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awtomatig, gan sicrhau mynediad at gymorth wedi’i deilwra, cyfleoedd mentora, adnoddau hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.

Meddai Michael Bowdery, Pennaeth yr Is-adran Rhaglenni, Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth yn Llywodraeth Cymru:  “Rwy’n falch iawn o longyfarch y rhai sydd wedi cael dyfarniadau’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu eleni wrth iddyn nhw ddechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd.”

Y rhai o Brifysgol Abertawe sydd wedi cael dyfarniadau yw: 

  • Dr Helen Daniels, Gwyddonydd Data, Gwyddor Data Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Swm y cyllid: £29,140

Cyfnod dyfarnu: Ebrill 1, 2026 i  Mawrth 31, 2027

  • Dr Maria Cheshire Allen, Gwyddonydd Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe

Swm y cyllid: £43,283

Cyfnod dyfarnu: Ebrill 1, 2026 i  Mawrth 31, 2027

Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cael y dyfarniadau diweddaraf.

 

Rhannu'r stori