Awduron y rhestr fer

O'r chwith i'r dde (rhes uchaf): Dean Atkins, Hannah Dafforn-Belloube, Lucie Donahue, Ben Fergusson, Sybilla Harvey, William Hutton. O'r chwith i'r dde (rhes waelod): Issariya Morgan, Michelle Penny, Diana Powell, Satterday Shaw, Beth Webster, Rhys Owain Williams.

Mae rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2026 wedi cael ei chyhoeddi.

Mae'r wobr hon yn cydnabod y straeon byrion gorau, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, yn Saesneg ac sydd wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw ffurf ac ar unrhyw bwnc, heb fod yn hwy na 5,000 o eiriau. Rhaid iddynt gael eu hysgrifennu gan ysgrifenwyr 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sydd yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd ym 1991, wedi cael ei chynnal 13 o weithiau hyd yn hyn. Yn 2021, cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

 Rhestr Fer 2026:

 Blackthorn Winter gan Dean Atkins

Robbery gan Hannah Dafforn-Belloube

Flash Flood gan Lucie Donahue

Piedmont gan Ben Fergusson

Fermata gan Sybilla Harvey

Take Me gan William Hutton

The Reindeer gan Issariya Morgan

Hefted gan Michelle Penny

Thaw gan Diana Powell

A River in Egypt gan Satterday Shaw

Out of the Reen gan Beth Webster

Kilvey Hill gan Rhys Owain Williams

Bydd yr enillydd yn cael £1,000 a bydd ei waith yn cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2026, a gyhoeddir gan Parthian Books ym mis Hydref 2026. 

Caiff y deuddeg stori eu cynnwys yn antholeg 2026, a gyhoeddir gan Parthian. Wedi'i olygu gan Dr Elaine Canning, Cyfarwyddwr Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a Golygydd Rheoli'r Wobr, bydd y casgliad hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr awdur ffuglen a'r beirniad gwadd clodwiw, Tyler Keevil. Bydd yr ysgrifenwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd yn cael £100.

Meddai Tyler Keevil: “Roedd yn ddetholiad gafaelgar o straeon eleni. Roeddwn i'n teimlo bod y broses o'u darllen yn llawn ysbrydoliaeth ac yn ostyngedig, ac roedd hi'n anhygoel o anodd dewis ein cystadleuwyr terfynol. Mae'r deuddeg uchaf yn cynnwys cymysgedd cyffrous o leisiau, safbwyntiau, genres ac arddulliau. Edrychaf ymlaen at rannu pob stori gyda darllenwyr.”

Meddai Elaine Canning, golygydd yr antholeg: “Mae’r straeon sydd ar restr fer 2026 yn cludo darllenwyr ar draws gwahanol rannau o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys yr Eidal a’r Unol Daleithiau. Dyma straeon cymhellol, tyner sy'n canolbwyntio ar heriau amgylcheddol a'r byd naturiol gydag elfennau gwerin cryf; perthnasoedd cymhleth rhwng rhieni a phlant; hunan-adnabyddiaeth ac obsesiwn; a thirweddau gwledig yn erbyn tirweddau trefol. Mae'n fraint medru cynnwys gwaith yr ysgrifenwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn antholeg arbennig sy'n benodol ar gyfer y Gystadleuaeth hon - llongyfarchiadau mawr iddyn nhw".

Ganwyd Rhys Davies ym Mlaenclydach yn y Rhondda ym 1901, ac roedd ymysg yr ysgrifenwyr mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus o Gymru a oedd yn ysgrifennu rhyddiaith drwy gyfrwng y Saesneg. Ysgrifennodd fwy na 100 o straeon, 20 o nofelau, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama, a hunangofiant.

Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi 2026, a chaiff yr antholeg ei lansio ddydd Mercher 28 Hydref yn Waterstones Abertawe, yng nghwmni awduron y rhestr fer a'r enillydd cyffredinol, ynghyd â’r golygydd, Elaine Canning, y beirniad gwadd Tyler Keevil, a Chyfarwyddwr Parthian, Richard Davies.

Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys: Naomi Paulus; Laura Morris; Matthew G. Rees; Tanya Pengelly; a Keza O’Neill.

Darllenwch ddetholiad 2025 The Man on the Train: The Rhys Davies Short Story Award Anthology

Rhannu'r stori