Mae bron naw allan o ddeg (86%) gwefan gamblo ar-lein sydd â thrwydded yn y DU yn gweithredu mewn ffordd sy'n torri'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, yn ôl ymchwil newydd gan y Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) ym Mhrifysgol Abertawe.
Archwiliodd yr astudiaeth faneri cydsynio cwcis a thraffig rhwydwaith pob un o’r 624 o wefannau casino a betio chwaraeon sydd wedi'u trwyddedu gan y Comisiwn Gamblo. Dyma ganfyddiadau'r tîm:
- Dechreuodd dwy ran o dair (67%) o safleoedd gasglu data y gellir ei ddefnyddio i adnabod unigolyn cyn i ddefnyddwyr roi eu cydsyniad, gan anfon dynodwyr defnyddwyr unigryw at blatfformau dadansoddeg a marchnata trydydd parti.
- Ni roddodd bron chwarter o safleoedd (24%) unrhyw ffordd i ddefnyddwyr wrthod cael eu holrhain, gan gynnwys 2% o safleoedd yn methu dangos unrhyw faner gydsynio o gwbl.
- Dim ond 29% o'r baneri a ganiataodd i ddefnyddwyr wrthod tracio mor hawdd â'r ffordd y gallent ei dderbyn. Ar rai gwefannau, cymerodd 15 clic i wrthod.
- Roedd y rhan fwyaf o faneri yn defnyddio "patrymau tywyll" – dyluniadau rhyngwyneb sy'n arwain defnyddwyr at yr opsiwn sy'n cynnig y lleiaf o breifatrwydd. Roedd y rhain yn cynnwys rhoi pwyslais gweledol ar y botwm 'derbyn' (60%), cuddio'r opsiwn 'gwrthod' y tu ôl i ail haen (47%), a dewis gosodiadau nad ydynt yn ffafrio preifatrwydd ymlaen llaw (29%).
Mewn ail ran arbrofol o'r astudiaeth, profodd y tîm sut mae'r dyluniadau hyn yn effeithio ar ymddygiad. Cyflwynwyd gwefan betio efelychiedig, a oedd yn cynnwys un o chwe baner gydsynio, i sampl o 615 o gamblwyr ar-lein yn y DU. Roedd y dyluniad a ddefnyddir amlaf ar draws y diwydiant yn gwneud cyfranogwyr rhwng tair a phedair gwaith yn fwy tebygol o dderbyn tracio o’i gymharu ag opsiwn niwtral sy'n gofyn am un clic yn unig.
Roedd y cyfranogwyr a dderbyniodd hefyd yn ystyried bod eu dewis yn adlewyrchiad llawer gwaeth o'u gwir ddewisiadau preifatrwydd o’i gymharu â'r rhai a wrthododd (4.4 allan o 10, o'i gymharu â 7.9); mae hyn yn awgrymu mai'r dyluniad, yn hytrach na'r defnyddiwr, oedd yn pennu'r canlyniad. Roedd yr effaith yr un fath waeth beth oedd lefel risg gamblo'r cyfranogwyr.
Mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod data a gesglir yn y modd hwn yn sail i farchnata personol ac olrhain cwsmeriaid gamblo ar draws y we, a bod y nodweddion a ddefnyddir i nodi chwaraewyr sy'n werthfawr yn fasnachol yn gorgyffwrdd yn sylweddol â'r dangosyddion ymddygiadol sy'n gysylltiedig â niwed gamblo.
Arweiniwyd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn Computers in Human Behavior Reports, gan y myfyriwr PhD Jack McGarrigle, dan oruchwyliaeth yr Athro Simon Dymond, Dr Martyn Quigley a Dr Jamie Torrance.
Meddai'r prif awdur, Jack McGarrigle: "Gwnaethom archwilio pob gwefan gamblo drwyddedig yn y DU, ac roedd y darlun yn llwm. Nid yw'r rhan fwyaf yn rhoi dewis teg i gwsmeriaid ynghylch olrhain. Mae rhai yn ei gwneud yn un clic i dderbyn a hyd at bymtheg i wrthod. Dangosodd ein harbrawf dilynol. Mae'n gweithio'n union fel y byddech chi'n disgwyl, gan wthio pobl tuag at benderfyniadau nad ydyn nhw'n cytuno â nhw mewn gwirionedd,"
Dywedodd yr Athro Dymond: “Mae ein hymchwil yn dangos nad yw'r data sy'n cael ei gasglu drwy'r dyluniadau hyn yn niwtral – mae'r un fath o signal ymddygiadol sy’n gallu tynnu sylw at risg. "Nid mater o ddiogelu data i'r diwydiant yn unig yw cael cydsyniad yn iawn; mae'n rhan bwysig o atal niwed sy'n deillio o gamblo.”
Dysgwch fwy am y Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) ym Mhrifysgol Abertawe.