Llun o ddyn wrth ochr delwedd o flaen clawr llyfr.

Mae arbenigwr mewn gwrthderfysgaeth o Brifysgol Abertawe wedi helpu i greu'r gwaith cyfeirio cynhwysfawr cyntaf i fapio problem eithafiaeth dreisgar ar-lein a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â hi.

Mae’r Athro Stuart Macdonald yn un o gyd-olygyddion llyfr newydd sy'n archwilio'r trafodaethau sydd bellach yn cyfeirio gwrthderfysgaeth, polisi technoleg a llywodraethiant AI.

Nod Routledge Handbook of Online Violent Extremism, a olygwyd gan yr Athro Macdonald a’i gyd-academyddion, Suraj Lakhani, Julian Droogan, a Lydia Khalil, yw bod yn adnodd ar gyfer academyddion, myfyrwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr sy'n gweithio ar astudiaethau terfysgaeth, polisi technoleg a llywodraethiant platfformau.

Meddai'rAthro Macdonald, o Ysgol y Gyfraith: “Mae eithafiaeth dreisgar ar-lein yn faes astudio arbenigol sy'n tyfu'n gyflym. Gall godi cwestiynau ymarferol a moesegol cymhleth, sy'n aml yn anodd i'r rhai sy'n newydd i'r maes eu hateb.

"Roeddwn i eisiau helpu i greu adnodd cynhwysfawr sy'n dod â'r ysgolheictod diweddaraf ar grwpiau eithafiaeth dreisgar ar-lein a'r mannau maen nhw'n eu hecsbloetio ynghyd, ond sydd hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad methodolegol a moesegol ymarferol i ymchwilwyr a myfyrwyr fel ei gilydd.

“Mae'r llawlyfr yn gynnyrch VOX-Pol Network yn bennaf, sef rhwydwaith byd-eang o fwy na 100 o ymchwilwyr sy'n gweithio ar eithafiaeth ar-lein, a gynhelir gan Brifysgol Abertawe. Mae'r llyfr yn arddangos hyd a lled arbenigedd VOX-Pol, a rôl Abertawe wrth bennu'r agenda ymchwil a meithrin galluedd yn yr is-ddisgyblaeth hon".

Mae'r golygyddion yn dweud bod y llyfr wedi dod wrth i esblygiad eithafiaeth dreisgar ar-lein arwain at sefydlu'r maes academaidd sy'n dod i'r amlwg - astudiaethau eithafiaeth dreisgar ar-lein - sy'n sefyll ar y croestoriad rhwng astudiaethau terfysgaeth, cyfrifiadureg, y gyfraith, cymdeithaseg a throseddeg.

Mae pynciau'r llyfr yn cynnwys diffiniadau dadleuol o derfysgaeth, eithafiaeth a radicaleiddio ar-lein, effeithiolrwydd a therfynau rheoleiddio platfformau a chymedroli cynnwys, a'r dystiolaeth sy'n sail i honiadau am radicaleiddio algorithmig. Mae hefyd yn cynnwys ecoffasgiaeth, cymunedau incel a’r manosffer, a dynameg ryweddol radicaleiddio ar-lein a chyfranogiad menywod mewn eithafiaeth.

Meddai'r Athro Andrew Silke, Athro Troseddeg yn Royal Holloway:Mae grŵp anhygoel o gyfranwyr wedi dod ynghyd yma i greu cyfrol gynhwysfawr a phellgyrhaeddol ar eithafiaeth dreisgar ar-lein. Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall ac ymateb i'r mater cynyddol bwysig hwn ddarllen y llyfr hwn".

Cafodd ei ddisgrifio gan feirniad arall fel adnodd amhrisiadwy, ac mae Routledge Handbook of Online Violent Extremism ar gael mewn clawr caled ac fel e-lyfr a gallwch ei archebu ymlaen llaw yn awr.

 

Rhannu'r stori