Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00573
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
19 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Prif nod y rôl yw datblygu a chreu cynnwys deinamig a diddorol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ar draws amrywiaeth eang o blatfformau. Bydd deiliad y swydd yn fedrus wrth olygu, creu a darparu cyfathrebiadau perthnasol o safon uchel i gynulleidfa eang.

 

Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, Cyfadrannau, Gwasanaethau Proffesiynol ac Academïau, bydd y Swyddog yn galluogi'r Brifysgol i gyflwyno ar ei hymrwymiad i weithio gyda myfyrwyr fel partneriaid a chyflwyno profiad rhagorol i fyfyrwyr.

Bydd y swydd yn cynnwys:

  • Creu a datblygu cynlluniau cyfathrebu ar gyfer gweithgareddau sylweddol yn nhaith pob myfyriwr.
  • Datblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid eraill ar draws y Brifysgol i greu cymuned sy'n cyfathrebu ac sy'n rhannu arferion gorau.
  • Rheoli a chynnal calendrau cynnwys, gan ddefnyddio offer dadansoddi i fonitro cyfranogiad a chan gynnal dadansoddiadau cyfrifiadurol i sicrhau bod cyfathrebiadau myfyrwyr yn flaengar ac yn effeithiol i Brifysgol Abertawe.
  • Helpu i reoli a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ar draws y Brifysgol gyfan megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a gweithgarwch cyfranogiad myfyrwyr arall ac adborth.
  • Rheoli ac ysgogi tîm bach sy'n gyfrifol am ddarparu cyfathrebiadau ac ymgyrchoedd.

 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu ardderchog a phrofiad o ysgogi rhanddeiliaid. Byddwch yn gyfrifol am ddiogelu ein henw da a'n hunaniaeth a bydd y rôl yn gofyn am lygad craff am fanylion a galluoedd golygu ac ysgrifennu copi cryf.  

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr