Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd Addysg Gychwynnol i Athrawon (Daearyddiaeth)
- Rhif y Swydd
- SU00839
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £55,755 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Ebr 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Ebr 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Angella Cooze a.c.cooze@swansea.ac.uk
- Andrew Townsend Andrew.townsend@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Ers ei sefydlu yn 2019, mae rhaglenni TAR Prifysgol Abertawe wedi mynd o nerth i nerth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhaglen uwchradd wedi cael arolygiad Estyn ac wedi cael ei hail-achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r ddau sefydliad wedi ein cymeradwyo ar gryfder ein rhaglenni'n gyffredinol, gyda chydnabyddiaeth benodol am ein gwaith ar les a chysylltu â gwaith ymchwil ac ymarfer. Wrth adeiladu ar lwyddiant ein hail TAR Uwchradd, rydym yn cyflwyno llwybr Daearyddiaeth newydd ym mis Medi 2025. Byddwn yn penodi darlithydd/uwch-ddarlithydd ar sail 0.5 CALl i arwain y llwybr hwn. Gall hyn fod ar lefel Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd.
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar yr un pryd â swydd gyfwerth ar gyfer arwain ein rhaglen TAR Uwchradd newydd mewn Hanes. Ar gyfer yr ymgeisydd cywir, byddem yn ystyried cyfuno'r rolau hyn h.y. 1.0 CALl yn y Dyniaethau. Nodwch os ffefrir hyn gennych yn eich llythyr cais.
Bydd y person a benodir yn aelod o'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Mae hon yn adran fywiog a cholegol gydag ymrwymiad i gynnal ymchwil ystyrlon a'i lledaenu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion yng Nghymru a thu hwnt a chyda rhannau eraill o' sector. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hamgylchedd ymchwil i'r holl staff. Rhywbeth a ganmolwyd gan dîm arolygu Estyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain Llwybr Daearyddiaeth y rhaglen TAR Uwchradd. Bydd yn cyfrannu at raglenni eraill yn yr adran gan gynnwys yr MA Addysg (Cymru) a rhaglenni israddedig neu raglenni Meistr eraill o bosib.
Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â phrofiad ac arbenigedd addas, byddem yn croesawu’n benodol geisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu addysgu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol o wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Yn y llythyr cais, nodwch yn glir sut rydych yn bodloni disgwyliadau darlithydd neu uwch-ddarlithydd fel y bo'n briodol. Nodwch hefyd a hoffech gael eich ystyried am y swydd 0.5 CALl Hanes i wneud rôl 1.0 CALl yn y Dyniaethau. Os yw'r swydd amser llawn hon o ddiddordeb i chi, nodwch sut gallech fodloni gofynion addysgu'r ddau bwnc.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Darlithydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Uwch Ddarlithydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr