Mae gwybodaeth a chyngor am deithio mewn tacsi isod.
Darparwyr Gwasanaeth Tacsi
Cerbydau Hacni
Data Cabs – 01792 474747
Cerbydau Hurio Preifat
Cwmbwrla Cabs 01792 646666
East Side Cabs 01792 771166
Kilvey Cabs 01792 457888
New Forest Cabs 01792 585666
Oyster Cabs 01792 367777
Swallow Cabs 01792 895533
Sketty Cabs 01792 299299
Yellow Cabs 2020 Ltd 01792 644446
Nid yw cerbydau hurio preifat yn codi teithwyr o safleoedd tacsi, mae'n rhaid eu harchebu ymlaen llaw.
Archebu a Thalu
- Os ydych yn archebu tacsi, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cwmni sy’n cynnig ap. Bydd hyn yn golygu bod gennych gadarnhad o'r amser a rhif cofrestru'r cerbyd a gallwch ddilyn y cerbyd drwy'r ap. Mae Data Cabs yn cynnig ap y gallwch ei lawrlwytho.
- Mae'r rhan fwyaf o dacsis yn gofyn i chi dalu ag arian parod. Gall prisiau amrywio o £10 i £14 (i ganol y ddinas o Gampws Singleton, Campws y Bae a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan).Sylwer bod mesuryddion gan dacsis, felly os nad ydych chi wedi cytuno ar bris, gall y pris gynyddu.
Safleoedd Tacsi
- Mae'r prif safle i gael tacsi gyda'r nos yng nghanol y ddinas ar Stryd Caer, ar ben Stryd y Gwynt.
- Mae safle tacsi arall yn gyfleus am Stryd y Gwynt, yn Stryd Efrog (cyfagos â Stryd y Gwynt lle mae'r clwb nos Fiction).
Teithio'n Ddiogel mewn Tacsi
Dilynwch y canllawiau call hyn am deithio'n ddiogel mewn tacsi:
- Tynnwch lun o'r bathodyn ar eich ffôn symudol gan ddangos rhif y tacsi.
- Eisteddwch y tu ôl i'r gyrrwr os ydych chi ar eich pen eich hun.
- Ceisiwch rannu'r daith â myfyrwyr eraill rydych yn eu hadnabod.
- Peidiwch â mynd i mewn i'r cerbyd os nad oes gan y gyrrwr ddau fathodyn adnabod sy'n union yr un fath; un ar y dangosfwrdd blaen a'r llall wedi'i wisgo gan y gyrrwr.
- Dylai fod un gyrrwr yn unig yn y cerbyd ac ni ddylai teithwyr eraill fod ynddo.
- Dylai mesurydd fod yn weladwy a dylech gytuno ar bris am y daith.
- Peidiwch byth â mynd i mewn i gar os nad ydych yn gwybod yn bendant ei fod yn Dacsi swyddogol.
Sylwer bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb wrth deithio mewn tacsi.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor pwysig ar ddiogelwch a lleoliadau safleoedd tacsi, ar gael ar wefan Cyngor Dinas a Sir Abertawe.