Os nad oes gennych eich beic eich hun, gallwch logi un o'n Beiciau Prifysgol Abertawe.
Mae yna ganolfannau yn:
- Campws Singleton
- Campws y Bae
- Parcio a Theithio Ffordd Fabian
- Knab Rock yn y Mwmbwls
- Ystumllwynarth yn y Mwmbwls
Ble Alla i Fynd?
Gallwch fynd i unrhyw le y dymunwch – chi sydd i benderfynu! Mae'r beiciau'n ffordd wych o fynd o gwmpas ac archwilio Abertawe. Efallai yr hoffech chi fwynhau golygfeydd y Mwmbwls, neu fwynhau taith hamddenol ar hyd promenâd Abertawe? Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth, edrychwch ar y map llwybr beicio electronig defnyddiol hwn.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dychwelyd eich Beiciau Prifysgol Abertawe i orsaf ddocio swyddogol pan fyddwch chi wedi gorffen, a gwasgwch y lifer clo ffrâm i lawr i gloi'r beic. Os byddwch yn dychwelyd eich beic i ffwrdd o orsaf, codir ffi gwasanaeth.
Sut i Gofrestru...
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, dilynwch y camau syml hyn:
- Dadlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o'r app nextbike i gofrestru a chael mynediad at y nodweddion diweddaraf (ar gael ar iOS ac Android). Peidiwch ag anghofio derbyn y Ts&Cs.
- Ar ôl cofrestru, dewiswch ‘Activate Account’.
- Cwblhewch y ‘Meysydd Proffil’. Cofiwch gofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost @swansea.ac.uk.
- Dewiswch ‘Datgloi Opsiynau’ a nodwch eich manylion talu. Mae angen blaendal o £5 i ddilysu eich gwybodaeth a bydd yn dod yn gredyd ar eich cyfrif. Nodyn: NI dderbynnir cardiau rhagdaledig. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at nextbike T&Cs neu e-bostiwch info@nextbike.co.uk.
- Dilyswch eich cyfrif trwy glicio ar y ddolen a anfonwyd atoch trwy e-bost.
Nodyn: Er mwyn adbrynu eich tanysgrifiad, rhaid i chi gofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost @swansea.ac.uk. Mae cyfraddau aelodaeth yn berthnasol i'r beic cyntaf y byddwch yn ei logi. Bydd pob rhent ychwanegol yn cael ei godi ar y gyfradd Talu Wrth Deithio safonol. Trwy rentu am fwy na 24 awr, codir tâl arnoch am y diwrnod cyfan nesaf.
Os ydych wedi cofrestru gyda chyfeiriad e-bost personol (heblaw @swansea.ac.uk):
Os gwnaethoch gofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol eich hun, ni fydd y system yn eich adnabod fel myfyriwr neu aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd angen i chi newid eich e-bost i’ch cyfeiriad e-bost @swansea.ac.uk yn yr ap. Byddwch yn derbyn e-bost gan nextbike yn gofyn i chi wirio'ch e-bost. Unwaith y byddwch wedi gwneud hynny bydd eich tanysgrifiad yn cael ei gymhwyso.
Oeddet ti'n gwybod...
Y gallech chi elwa o aelodaeth flynyddol CAMPUS Beic fel staff neu fyfyriwr sy'n costio dim ond £10 ac sy'n golygu bod 30 munud cyntaf pob reid am ddim, gyda phob 20 munud wedi hynny yn costio dim ond 50 ceiniog!
Ble Alla i Darganfod Mwy?
Gallwch ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am gofrestru ar gyfer Beiciau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'r beiciau, eu rhentu, eu parcio a'u dychwelyd ar wefan y cynllun.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gall tîm gwasanaeth cwsmeriaid nextbike helpu: info@nextbike.co.uk
Ffôn: 029 2248 3716.