Yr Athro Deborah Youngs
Bywgraffiad yr Athro Deborah Youngs
Yr Athro Deborah Youngs yw'r Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg ym Mhrifysgol Abertawe ers iddi gael ei phenodi ym Medi 2022.
Hi sy'n gyfrifol am reoli'n strategol bortffolio dysgu ac addysgu'r Brifysgol, ansawdd a safonau academaidd a gwella profiad y myfyrwyr. Hi sy'n goruchwylio ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu profiad addysgol rhagorol i'r holl fyfyrwyr ac ar hyn o bryd, mae hi'n arwain llawer o fentrau allweddol sef: trawsnewid y cwricwlwm; ymgorffori iechyd a lles wrth lunio penderfyniadau; a gwella sgiliau a chyflogadwyedd myfyrwyr i wneud yn siŵr bod gan fyfyrwyr graddedig y cyfle gorau i ffynnu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae Deborah yn cyflawni'r rôl gan ddefnyddio ei dealltwriaeth ddofn o'r sefydliad. Yn y dechrau, ymunodd hi â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd Hanes a dyfarnwyd cadair bersonol iddi yn 2016. Mae hi wedi cyflawni nifer o rolau arwain, gan gynnwys Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau, cyn iddi gael ei phenodi'n Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, ac yna'n Ddirprwy Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, lle chwaraeodd hi rôl flaenllaw wrth sefydlu'r Gyfadran (2020-22).
Pan fydd amser ganddi, mae hi'n parhau i adeiladu ar ei gyrfa academaidd fel hanesydd Prydain diwedd yr Oesoedd Canol a dechrau Oes y Tuduriaid. Mae hi'n Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth ar rywedd, y gyfraith, heneiddio ac ystod bywydau, 1350-1550. Mae ei chyhoeddiadau diweddaraf yn archwilio i ymgyfreitha menywod yn llysoedd barn canolog Lloegr Oes y Tuduriaid.