Adran Gaffael Prifysgol Abertawe

Adeilad yr Abaty ym Mhrifysgol Abertawe yw cartref yr Adran Gaffael.

Croeso i dudalennau allanol adran Gaffael Prifysgol Abertawe. Nod y tudalennau hyn yw rhoi gwybodaeth i ddarpar gyflenwyr a chyflenwyr presennol.

Gwybodaeth i Gyflenwyr

Mae'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'r Brifysgol yn eu caffael - a'r ffordd y mae'n gwneud hynny - yn hanfodol wrth iddi wireddu ei gweledigaeth strategol ehangach.Wrth wario £100 miliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau megis TG, nwyddau labordy, gwasanaethau glanhau, teithio, cyfarpar ymchwil, gwasanaethau ymgynghori ac adeiladu, mae'n rhaid i'r Brifysgol sicrhau gwerth am arian a chydymffurfiaeth.

Er mai’r tîm Caffael canolog sy’n gyfrifol am yr holl weithgarwch caffael â gwerth uchel, mae'r Brifysgol yn gweithredu system cyllidebu ddatganoledig ac yn unol â honno mae'r cyfrifoldeb am brynu o ddydd i ddydd â gwerth isel wedi'i ddirprwyo i'r Cyfadrannau a'r Unedau Gwasanaeth Proffesiynol oherwydd eu bod yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau i ddiwallu'r anghenion gweithredol.

Mae tîm Caffael Prifysgol Abertawe yn cynnal prosesau tendro ar gyfer gwahanol gontractau a chytundebau pan fo hynny'n briodol. Hefyd, mae gennym fynediad at fframweithiau a chytundebau ym myd Addysg Uwch a'r sector cyhoeddus.

Fel corff sector cyhoeddus, mae'r Brifysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ar gyfer gweithiau, nwyddau a gwasanaethau sy'n uwch na'r trothwyau. Hysbysebir tendrau sy'n uwch na'r trothwyau ar wefan GwerthwchiGymru neu fel arall fe'u dyfernir drwy fframwaith cydweithredol presennol.

 

Gweler dolen i'n hysbysiad preifatrwydd cyflenwyr yma: Hysbysiad Preifatrwydd Cyflenwyr Prifysgol Abertawe

Amodau a thelerau Prifysgol Abertawe

Oni nodir fel arall mewn cais am ddyfynbris neu ddogfennaeth dendro, mae pob Archeb Brynu a gyflwynir gan y Brifysgol yn ddarostyngedig i'r Amodau a Thelerau safonol fel isod:

 

Am fwy o wybodaeth am ein Telerau ac Amodau cysylltwch â Procurement@abertawe.ac.uk

 

Gwybodaeth am Sgamiau Twyll
Delwedd o arwydd Twyll

Mae cyflenwyr Prifysgol Abertawe yn wynebu niferoedd cynyddol o sgamiau ar y rhyngrwyd a sgamiau gwe-rwydo. Darllenwch y canllaw Gwybodaeth am Dwyll er mwyn ymgyfarwyddo ag arferion diogelwch ar y rhyngrwyd:Gwybodaeth Bwysig am Dwyll

Gwybodaeth Gyswllt

Er mwyn cysylltu ag Adran Gaffael Prifysgol Abertawe, e-bostiwch:Procurement@abertawe.ac.uk